Gwasanaethau Bendith a Diolch
Mae gwasanaethau i gyplau sydd eisoes yn briod yn achlysuron bendigedig i ddathlu priodas, boed ar ôl blynyddoedd lawer o fywyd priodasol neu ar ôl seremoni sifil ym Mhrydain neu dramor. Mae’r adran hon yn egluro rhai o’r cyfleoedd, yn edrych ar y litwrgïau sydd ar gael, ac yn rhoi syniadau ar gyfer gwneud yr amser yn arbennig.
Mae ystadegau’n dangos bod Bendithion ar gynnydd mewn eglwysi. Mae cyplau nad ydyn nhw’n priodi mewn eglwys eisiau cynnwys yr eglwys yn eu priodas yr un fath, sy’n newyddion da! Gall y ddau litwrgi sydd ar gael fod yn rhywbeth arbennig iawn i gyplau, waeth beth fo’r amgylchiadau:
Bendith
Mae Gwasanaeth Bendith a/neu Ddiolch yn rhoi’r opsiynau canlynol i gyplau:
- Gwahodd aelodau’r teulu nad oedden nhw’n gallu mynychu’r briodas i wasanaeth ffurfiol.
- Gofyn am fendith Duw ar y briodas.
- Cael gwasanaeth eglwys gyda’r rhwysg i gyd os oedd y gwasanaeth sifil yn un syml.
- Mewn rhai amgylchiadau, cynnwys yr eglwys os oes ysgariad yng nghefndir y pâr ac nad oeddech chi’n gallu cynnig gwasanaeth priodas.
- Gellir ei deilwra i edrych a theimlo’n debyg i briodas.
Awgrym cyfreithiol: Os yw hynny’n iawn gennych chi, gellir cael bendith yn yr un lleoliad â’r briodas sifil ar yr un diwrnod, cyn belled:
- bod y cofrestrydd wedi gadael
- bod digon o amser ar ôl yn y dydd
- ei fod ar adeg cwbl wahanol ar ôl y briodas ac yn amlwg ar wahân iddo.
Gall Gwasanaeth Bendith a/neu Ddiolch hefyd fod yn ffordd wych o alluogi cyplau i adnewyddu eu haddunedau, naill ai ar ben-blwydd priodas arbennig neu efallai ar ôl cyfnod anodd yn eu priodas.