Cefnogi cyplau a gwesteion byddar gyda Dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain
Iaith Arwyddion Prydain yw pedwaredd iaith frodorol Prydain, a ddefnyddir gan aelodau byddar ac aelodau sy’n clywed o’r gymuned fyddar.
Yn aml bydd pobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn mynd at eu Caplan lleol, neu weinidog arbenigol i bobl fyddar i gynnal eu priodas yn Iaith Arwyddion Prydain. Fodd bynnag, weithiau fe fyddan nhw’n dewis priodi yn eglwys y plwyf, neu eglwys y mae ganddyn nhw gysylltiadau cryf â hi ac efallai y byddan nhw angen dehonglwr ar gyfer y seremoni.
Efallai y bydd gan y pâr ffrindiau byddar sy’n dymuno dod i’r briodas ac efallai y bydd angen iddyn nhw weld y dehonglwr er mwyn gallu tystio’r briodas yn iawn.
Does dim unrhyw ofyniad cyfreithiol i ddefnyddio dehonglwr iaith arwyddion mewn priodas lle mae’r briodferch a/neu’r priodfab yn fyddar, ond yn amlwg mae’n bwysig bod y pâr yn deall y gweinidog a bod y gweinidog yn deall ymatebion y ddau. Mae’n bwysig iawn siarad â’r pâr am yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i deimlo’n hyderus yn eu priodas.
Os oes dehonglwr yn cael ei ddefnyddio mae angen ystyried lle i’w leoli yn yr eglwys fel y gall pobl weld a deall. Weithiau, bydd angen dau ddehonglwr os yw’r Briodferch/Priodfab ac aelodau’r gynulleidfa’n fyddar.
Mae dehonglwyr iaith arwyddion yn weithwyr proffesiynol sydd wedi derbyn llawer o hyfforddiant a bydd angen talu am eu gwasanaeth yn union fel unrhyw un arall sy’n gwneud swydd broffesiynol mewn priodas. Os yw’r briodferch a/neu’r priodfab yn fyddar ac yn gofyn am ddehonglwr ar gyfer eu priodas ni ddylid disgwyl iddyn nhw dalu am y dehonglwr. Os nad yw'r briodferch a/neu’r priodfab yn fyddar ond eu bod wedi gwahodd ffrindiau byddar sydd angen dehonglwr, mae’n rhesymol gofyn am gyfraniad tuag at gost dehonglwr.
Gill Behenna