Pam ei bod hi mor bwysig cael y weinidogaeth yn iawn ynghylch gwasanaethau bedydd, priodasau ac angladdau
Yn ddiweddar, darllenais adroddiad a oedd yn edrych ar seicoleg y cof a gwneud penderfyniadau: mae’n ymddangos ein bod ni’n gwneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol ar sail profiadau’r gorffennol. Mae’n bwysig iawn bod gennym ni fanc o atgofion cadarnhaol i dynnu arnyn nhw pan fyddwn ni’n cael y cyfle nesaf i ddewis eto. Dyna pam mae cwmnïau fel John Lewis neu First Direct yn buddsoddi cymaint mewn gwasanaeth i gwsmeriaid, gan sicrhau bod gennych chi atgof da ar gyfer y tro nesaf y byddwch chi’n gwneud penderfyniad, waeth a ydych chi’n cysylltu am y tro cyntaf neu am yr 50fed tro.
Ro’n i’n gweld hyn yn berthnasol iawn i’r Eglwys, ac yn arbennig o bwysig i’r rhai sy’n canolbwyntio ar weinidogaeth Digwyddiadau Bywyd – yr adegau hynod o bwysig hynny i bobl pan maen nhw’n gofyn i ni eu helpu i nodi dyfodiad plentyn i’w teulu, ymrwymiad i berthynas neu i nodi marwolaeth un o’u hanwyliaid.
Mae pob profiad yn gyfle i ddatblygu cysylltiad cadarnhaol â Duw a phobl Duw
Mae gwasanaethau bedydd, priodasau ac angladdau’n dod â ni i gysylltiad â dau grŵp o bobl: y rhai rydym ni’n cwrdd â nhw sy’n ganolog i’r digwyddiad, a’r rhai sydd wedi dod fel gwahoddedigion ar y diwrnod. Gall yr eglwys gyrraedd y boblogaeth mewn ffordd anhygoel drwy’r digwyddiadau hyn, gyda thros 15 miliwn o bobl y flwyddyn yn mynychu’r gwasanaethau hyn. Ni fydd rhai o’r rhain wedi bod mewn eglwys o’r blaen na chyfarfod gweinidog sy’n arwain gwasanaeth – ac mae derbyn croeso gwirioneddol yn ychwanegu atgofion arbennig i’r diwrnod.
Mae pob profiad yn gyfle i ddatblygu cysylltiad cadarnhaol â Duw a phobl Duw, i siarad am y newyddion da sef Iesu, ac i roi rhywbeth i bobl dynnu arno y tro nesaf maen nhw’n cael cyfle i ddod i gysylltiad â’r eglwys neu’r Efengyl.
Datgelodd ymchwil Digwyddiadau Bywyd fod llawer o bobl yn bryderus am yr eglwys, neu fod ganddyn nhw atgofion negyddol yn seiliedig ar straeon teuluol neu ddramâu teledu sy’n dangos clerigion fel pobl bell, amhersonol neu druenus. Mae pob cysylltiad sy’n gadarnhaol, pob gwên gynnes a gwahoddiad personol yn dechrau newid eu canfyddiadau. Mae’n gweithio tuag at ‘chwalu’r tir heb ei aredig’ - a phwy a ŵyr i ble y gallai hynny arwain?
Y Parchedig Ddoctor Sandra Millar