Cwrs Cyn-ymddeoliad
Tra bo nifer o bobl yn edrych ymalen at ei ymddeoliad ac yn mwynhau paratoi ar gyfer y rhyddid a chyfleoedd a ddaw gyda ymddeoliad, i eraill gall fod yn adeg ansicr a phryderus.
I glerigion, yn enwedig y rheiny sydd wedi bod yn y weinidogaeth am nifer o flynyddoedd, gall ymddeoliad gyflwyno heriau a phryderon ynghylch cyllid a chartref ag i eraill gall ymddeoliad deimlo fel bygythiad i'w hunaniaeth. Er y bydd llawer yn hapus iawn i ymddeol a thynnu eu coleri clerigol am y tro olaf, bydd eraill yn trafferthu i feddwl am fywyd heb fod yn rhan o weinidogaeth, ac rydym ni'n awyddus i gynnig gymaint o help a chymorth i'n cydweithwyr celerigol. Yn sicr, mae'r Eglwys yng Nghymru yn gwerthfawrogi ac yn dibynnu ar ymrwymiad clerigon actif wedi ymddeol.
Mae Athrofa Padarn Sant yn cynnal Cyrsiau Cyn-Ymddeoliad yn rheolaidd er mwyn rhoi cymorth a chyngor gwerthfawr i bob un sy'n ystyried ymddeol.
Pwy all ddod i gwrs Cyn-ymddeoliad?
Gall unrhyw glerigwr sy'n gwasnaethu a dros 58 oed ddod ar y cwrs. Nid yw'n meddwl eich bod ar fin ymddeol, ond efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddechrau gynllunio ar ei chyfer, hyd yn oed os yw ymddeoliad ychydig o flynyddoedd i ffwrdd. A gallwch ddod mwy nag unwaith. Mae'n bosib y bydd yn ddefnyddiol i ddod ychydig o wiethiau yn y blynyddoedd sy'n arwain at eich ymddeoliad wrth i'ch amgylchiadau ariannol a phersonol newid.
Ydw i'n cael dod â rhywun gyda fi?
Mae croeso i bawb sy'n mynychu'r cwrs ddod a gŵr neu gwraig, partner, ffrind neu aelod o'r teulu gyda nhw. Yn naturiol, efallai y byddai well gennych i fynychu ar eich pen eich hun, neu efallai na fydd yn bsoib i'ch partner, aelod o'r teulu neu ffrind i fynychu. Eich dewis chi yn llwyr ydyw.
Beth fydd yn cael eu chynnwys ar y cwrs?
- Help gyda chynllunio ariannol ar gyfer ymddeoliad
- Gwybodaeth am glerigion a phensiynau'r llywodraeth
- Trosolwg o Gynllun Pensiwn yr Eglwys yng Nghymru
- Siaradwyr Gwadd yn rhannu eu profiadau o ymddeol o'r weinidogaeth
- Elfennau personol o ymddeoliad megis y cyfnod o drawsnewid i rhan newydd o fywyd, huna-ofal, iechyd ac anghenion ysbrydol
- Lle i feddwl, gweddio a myfyrio
- Cyfle rheolaidd i weddio
- Gweithdai i drio rhywbeth newydd a gael ychydig o hwyl
Pryd mae'r cyrsiau nesaf?
Dyddiad | Lleoliad |
---|---|
Dydd Llun 10 - Dydd mercher 12 Tachwedd 2025 | Gwesty'r Metrepole, Llandridndod |