Gweinidogion Lleyg Trwyddedig
Caiff Gweinidogion Lleyg Trwyddedig (a gyfeirir yn aml LLMs, term sydd hefyd yn cynnwys Darllenwyr Trwyddedig) eu galw i fyw eu ffydd Gristnogol mewn sawl cyd-destun. Efallai y bydd eu gweinidogaeth yn canolbwyntio’n bennaf ar y cartref, y gymuned leol, y gweithle neu unrhyw rwydwaith cymdeithasol arall.
Yn aml bydd ganddynt lawer o gyfrifoldebau hefyd mewn eglwysi a byddant yn rhan allweddol o genhadaeth a gweinidogaeth yr eglwys, gan gynnwys gofal bugeiliol, arwain angladdau, pregethu a dysgu yn ogystal â swyddi arweiniol eraill a rennir yn aml gyda’r periglor.
Mae Athrofa Padarn yn gweithio’n agos gyda Chyfarwyddwyr y Weinidogaeth, Swyogion LLM's/ Wardeiniaid i Ddarllenwyr yr esgobaeth, ac yn ymrwymedig i helpu a chefnogi Gweinidogion Lleyg Trwyddedig eraill a darparu adnoddau iddynt er mwyn iddynt allu ffynnu yn eu gweinidogaethau a’u datblygiad proffesiynol.
Adnoddau Defnyddiol gan Trawsnewid y Weinidogaeth (Transforming Ministry)
Prosiect hyfforddi yw Trawsnewid y Weinidogaeth sy’n annog dysgu gydol oes. Wedi’r cyfan, ni ddaw’r broses o ddysgu a datblygu i ben ar ôl i chi gael eich trwyddedu. Caiff pob un ohonom ein herio i barhau i ddysgu a meithrin ein ffydd. Mae Trawsnewid y Weinidogaeth yn darparu cymorth a hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar 3 haen o weinidogion lleyg trwyddedig:
- Dysgu am Ffydd
- Arwain yn yr Eglwys a’r Gymdeithas
- Cyflawni Cenhadaeth
I gael gwybod mwy am yr adnoddau a’r rhai sydd ar gael ar-lein gan Trawsnewid y Weinidogaeth, cliciwch fan hyn
Mae adroddiad hefyd ar gael sy’n helpu i esbonio’r 3 haen o weinidogaeth drwyddedig yn fwy manwl sef ‘Sunday to Saturday Faith’, a gellir gweld copi ohono yma:
Digwyddiadau Taleithiol a Chynhadledd Cenedlaethol
Yn ystod y flwyddyn, mae Athrofa Padarn Sant yn cynnal digwyddiadau taleithiol I Ddarllenwyr a Gweinidogion Lleyg Trwyddedig, mae un yn cael ei gynnal ar-lein fel arfer yn y Gwanwyn, a’r Gynhadledd Genedlaethol yn cael ei gynnal yn yr Hydref.
Diwrnod Cymorth Blynyddol Ar-lein
Bydd y Diwrnod Cymorth Blynyddol yn cael ei chynnal ar-lein ddydd Sadwrn 5 Ebrill 2025.
Cynhelir y Gynhadledd Genedlaethol eleni yn Llandrindod rhwng Dydd Gwener 26 Medi i Dydd Sul 28 Medi ac mi fydd y ffocws ar y Beibl ynghyd a digonedd o ddysgu ac adnoddau. Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim i Weinidogion Lleyg Trwyddedig yn yr Eglwys yng Nghymru. Os hoffech fwy o fanylion, cysylltwch:
CMDAdmin@stpadarns.ac.uk
neu ffoniwch 029 2056 3379.
Swyddogion yr Esgobaeth sy’n gyfrifol am Ddarllenwyr/Gweinidogion Lleyg Trwyddedig
Esgobaeth | Enw | Cyfeiriad E-bost |
---|---|---|
Bangor | Keith Wadcock | keith.wadcock@outlook.com |
Llandaf | Amanda Russell-Jones | arusselljones@regent-college.edu |
Mynwy | Helen Millard | millard.h60@gmail.com |
Llanelwy | Alyson Goldstein | alysongoldstein@churchinwales.org.uk |
Tyddewi | Ruth Evans |
|
Abertawe ac Aberhonddu | Justin Davies |
|