Gweinidogion Trwyddedig Newydd
Trosolwg o'r Rhaglen
Athrofa Padarn Sant, sy’n darparu hyfforddiant a chymorth pellach i Weinidogion Trwyddedig Newydd, a’u goruchwylwyr, gan gyflwyno hyfforddiant parhaus ar ffurf Datblygiad yn y Weinidogaeth. Mae’r dudalen hon yn amlinellu’r cyrsiau sydd ar gael i Weinidogion Trwyddedig Newydd.
Cyfnod Craidd
Mae’r cyfnod hyfforddi ar gyfer Gweinidogion Trwyddedig Newydd yn cynnwys dwy flynedd o hyfforddiant CRAIDD i bawb a hyd at ddwy flynedd o ARWEINYDDIAETH BWRIADOL i Weinidogion cyflogedig a’r rheiny bydd â swyddi o awdurdod uwch. Mae’r hyfforddiant CRAIDD yn debyg i bob Gweinidog Trwyddedig, waeth beth yw’r weinidogaeth drwyddedig/ordeiniedig. Fodd bynnag, mae’r hyfforddiant ARWEINYDDIAETH FWRIADOL i Weinidogion Trwyddedig Newydd ac yn canolbwyntio’n bennaf ar arweinyddiaeth, cyflwyno gweledigaeth, cydnerthedd, cynllunio strategol a pharatoi a galluogi eraill.
Disgwylir i bob Gweinidog Trwyddedig, boed yn weinidog lleyg neu’n ordeiniedig, fod yn ymrwymedig i’w datblygiad parhaus i wasanaethu Duw a’r gymuned drwy’r eglwys. Dylai Gweinidogion Trwyddedig Newydd gael y cymorth, y wybodaeth a’r anogaeth i ffurfio arfer da a byw bywyd sy’n llawn ffydd, gobaith a chariad.
Yn y flwyddyn gyntaf, bydd un penwythnos preswyl a dau gwrs preswyl dau ddiwrnod yng nghanol yr wythnos yn rhan o’r hyfforddiant. Bydd penwythnos ychwanegol hefyd ar gyfer y rhai sy’n cael eu hordeinio’n Offeiriaid ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.
Yn yr ail flwyddyn ceir cwrs preswyl penwythnos, cwrs preswyl pedwar diwrnod ac yna cwrs preswyl tridiau yng nghanol yr wythnos –bydd y cyfnod preswyl olaf hwn yn nodi diwedd y Cyfnod CRAIDD hyfforddiant i Weinidogion Trwyddedig Newydd.
Rydym yn cydnabod bod cyrsiau preswyl yng nghanol yr wythnos yn dreth ar amser a bod angen i rai o’n gweinidogion aberthu amser o’u dyletswyddau eraill er mwyn gallu mynychu. Er mwyn cael cydbwysedd rydym wedi sicrhau bod ein hyfforddiant yng nghanol yr wythnos o’r safon orau posibl.
Rydym yn cydnabod bod cyrsiau preswyl yng nghanol yr wythnos yn dreth ar amser a bod angen i rai o’n gweinidogion aberthu amser o’u dyletswyddau eraill er mwyn gallu mynychu. Er mwyn cael cydbwysedd rydym wedi sicrhau bod ein hyfforddiant yng nghanol yr wythnos o’r safon orau posibl. Bydd diswgyl i weinidogion di-gyflog ymrwymo i 4 diwrnod canol wythnos bob blwyddyn yn ystod eu hyfforddaint NLM, ac bydd gweinidogion cyflogedig yn ymrwymo i 20 diwrnod canol yr ywthnos yn ystod eu cyfnod hyfforddi fel NLM.
Y Tîm Hyfforddi
Cyflwynir y cyrsiau gan 3D Coaching (https://www.3dcoaching.com) a Bridge Builder Ministries (https://www.bbministries.org.uk) yn y flwyddyn gyntaf a Lead Acaemy (https://leadacademy.net) a Bridge Builders yn yr ail flwyddyn. cyrsiau hyn am ddim i Weinidogion Trwyddedig Newydd. Gallwch wneud cais am gostau teithio ar gyfer y digwyddiadau y mae’n rhaid i chi eu mynychu fel rhan o’ch hyfforddiant parhaus, ond mae angen gwneud cais am y rhain i’ch Plwyf neu Ardal Genhadaeth/Gweinidogaeth yn hytrach nag Athrofa Padarn Sant.
Rhoddir cymorth cyhwanegol i Weiidogion Trwyddedig Newydd a'u goruchwylwyr drwy Amgylchedd Rhithiol Athrofa Padarn Sant, Moodle. Bydd pob NLM a Goruchwyliwr yn medru acel mynediad at amryiaeth o adnoddau electronig gan gynnwys, rhestrau gwirio cymwyseddau, templedi ffurflenni a chanllaw ar gytundeb ddysgu.
Cyfnod Arweinyddiaeth Fwriadol
Yn wahanol i’r cyfnod CRAIDD, mae’r cyrsiau ARWEINYDDIAETH FWRIADOL yn orfodol i Weinidogion Cyflogedig yn unig. Gall NLM’s eraill fynychu ond dim ond os oes ganddyn nhw ganiatâd gan ei hesgob neu Gyfarwyddwr Gweinidogaeth. Er hyn byddwn yn disgwyl y byddai’r rheiny sy’n debygol o ddal swydd gydag arweinyddiaeth sylweddol i fynychu. Caiff y cyfnod hwn ei gyflwyno a’i harwain gan y Lead Academy https://www.leadacademy.net/
Cymorth Parhaus
Rydym yn sylweddoli y bydd angen gymaint o gymorth a chefnogaeth ac sy'n bosib ar Weinidogion Trwyddedig yn ystod eu cyfnod CRAIDD. Rydym yn argymell, er mwyn sicrhau hyn, eu bod yn trefnu cyfarfodydd rheolaidd gyda'u cyfwryddwr / mentor ysbrydol neu gyda grŵp cymrheiriaid sy'n cyfrafod yn rheaoliadd. Os nad oes gan NLM fynediad at unrhyw ffurf o gymorth, y disgwyl yw y byddant yn parhau yn rhan o'i cell ffurfiannol. Mae yna rhai adegau y gall cymorth ychwanegol fod yn ddefnyddiol i oruchwylydd / Gweinidog Trwyddedig Newydd, ac ambell dro gellir ymdrin ag ef y tu allan y gyd-destun esgobaethol. Os gallw ni helpu mewn unrhyw un o'r meysydd hynny, cysylltwch â ni.