Archwilio eich Galwedigaeth
Os ydych yn credu y gallai Duw fod yn galw arnoch i ymuno â gweinidogaeth drwyddedig ordeiniedig neu leyg yn llawn amser neu’n rhan amser, siaradwch â’ch offeiriad i ddechrau. Byddant yn gallu eich cynghori ynghylch y broses ar gyfer cael eich derbyn i hyfforddi. Gallwn ond eich derbyn i hyfforddi unwaith y byddwch wedi’ch noddi gan esgob.
Hyfforddiant
Mae’r hyfforddiant fel arfer yn cymryd tair blynedd, neu ddwy weithiau, gan ddibynnu a ydych yn hyfforddi’n llawn amser neu’n rhan amser, eich profiad o’r weinidogaeth a’ch cyfrifoldebau tebygol yn y dyfodol.
Mae’r hyfforddiant rhan amser wedi’i leoli yn eich cartref, ac mae’r hyfforddiant llawn amser wedi’i leoli yn eich cartref yn ogystal â chyfnodau byr o 3 diwrnod, am 30 wythnos y flwyddyn (ar hyn o bryd), o ddydd Mercher i ddydd Gwener, yng Nghaerdydd. Bydd yr holl ymgeiswyr yn dod ynghyd am dri chwrs preswyl ar y penwythnos ac un ysgol haf (fel arfer y drydedd wythnos ym mis Awst) y flwyddyn. Gellir canfod y dyddiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf yma. Mae’n werth eu nodi nawr, hyd yn oed os nad ydych wedi mynd drwy’r broses ddirnadaeth eto, fel y gallwch sicrhau eich bod yn rhydd. Mae’n hanfodol mynychu’r cyrsiau preswyl oherwydd dyna pryd y bydd llawer o’r addysgu a’r dysgu am ddiwinyddiaeth ac ymarfer gweinidogaeth yn digwydd.
Faint o ymrwymiad sydd ei hangen?
Mae hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yn ymrwymiad gwirioneddol o ran amser ac egni, nid yn unig o ran chi eich hunan, ond hefyd eich perthnasoedd arwyddocaol a bywyd eich teulu. Mae’n bosibl yr hoffech feddwl am beth y byddwch yn ei deimlo am roi’r gorau i’ch ymrwymiadau presennol o ran eich gweinidogaeth a’ch eglwys. Os ydych yn gwneud cynnig ar gyfer gweinidogaeth rhan amser, sut y byddwch yn cynnwys yr hyfforddiant (a’r weinidogaeth) yn eich bywyd? Beth y bydd yn rhaid i chi ei hepgor o bosibl er mwyn gwneud amser i’r hyfforddiant? Yn olaf, beth y byddwch yn ei golli yn ogystal ag yn ei ennill? Wrth i chi fynd drwy’r broses ddirnadaeth, bydd y rhain yn gwestiynau pwysig i chi eu hystyried.
Y Pedair Elfen o'r Hyfforddiant
Mae hyfforddi gydag Athrofa Padarn Sant yn cynnwys pedair elfen sylfaenol. Diwinyddiaeth (fel arfer drwy astudio am gymhwyster), cyrsiau preswyl lle y byddwch yn dysgu am ddiwinyddiaeth ac ymarfer gweinidogaeth, celloedd ffurfiannol lle y bydd gennych amser i integreiddio ac adlewyrchu ar eich hyfforddiant gyda hyfforddwr, a mynd ar leoliadau. Gellir canfod rhagor o wybodaeth a manylion ar y dudalen dechrau hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth
Sut ydw i'n astudio?
Mae nifer o bobl yn dilyn Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd, ein cwrs BTh mewn Disgyblaeth, Cenhadaeth a Gweinidogaeth, cyn dechrau hyfforddi ac mae’n ffordd wych o baratoi ar gyfer y broses ddirnadaeth a dod i arfer ag astudio diwinyddiaeth. Cysylltwch â ni os oes angen cyngor arnoch ynghylch dechrau’r cwrs Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd os ydych yng nghanol y broses ddirnadaeth. Yn gyffredinol, os ydych yn bwriadu hyfforddi ar gyfer gweinidogaeth llawn amser, mae’n well gorffen lefel cyn ichi ddechrau hyfforddi. Yna gallwch symud ymlaen i lefel nesaf eich hyfforddiant. Os ydych yn bwriadu dilyn hyfforddiant ordineiddio yn rhan amser, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cwblhau un flwyddyn o’r cwrs Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd yn rhan amser cyn dechrau hyfforddi. Bydd hyn yn golygu y byddwch yn gallu ennill diploma yn ystod eich tair blynedd o hyfforddi a chwblhau lefel 5. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein Tudalennau Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd
Lleoliadau
Caiff lleoliadau ei drafod a'u penderfynu rhwng Athrofa Padarn Sant a'ch esgobaeth, gan roi ystyriaeth i anghenion hyfforddiant a phellter teithio o adref.
Grantiau Cymorth
Gall y cyfrifwr grantiau ar ein tuadalen Dechrau Hyfforddi ar gyfer y Weinidogaeth eich cynorthwyo i gael rhagamcan o’r hyn y gallech ei gael ar ffurf grantiau.
Gan fod amgylchiadau pob unigolyn yn wahanol, cysylltwch â Siân Trotman, Rheolwr Gwasanaethau Dysgwyr fydd yn hapus iawn i’ch helpu.