Dechrau eich hyfforddiant ar gyfer y Weinidogaeth Drwyddedig
Dechrau Hyfforddi ar gyfer y Weinidogaeth
Llongyfarchiadau! Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi ar eich taith tuag at weinidogaeth ordeiniedig neu drwyddedig. Rydym yn galw hyfforddiant ar y weinidogaeth yn ‘ffurfiant’. Mae hyn oherwydd credwn mai’r peth pwysicaf yn ystod y cyfnod hwn yw eich bod yn tyfu hyd yn oed yn fwy i fod yr unigolyn y mae Duw yn galw arnoch i fod. Nid yw’n ymwneud â dysgu ffeithiau neu sgiliau yn unig, ond â thyfu mewn aeddfedrwydd yng Nghrist. Os yw bod yn weinidog yn golygu helpu eraill i wneud hyn (gweler Effesiaid 4: 11-13), yna mae ffurfiant ar gyfer y weinidogaeth yn ymwneud â’n cynorthwyo i fodelu hyn ynom ni ein hunain.
Mae’r hyfforddiant yn cymryd dwy neu dair blynedd fel arfer, yn llawn amser neu’n rhan amser. Mae ymgeiswyr rhan amser wedi’u lleoli yn eu cartrefi a byddant yn mynd ar leoliad ac yn dysgu am ddiwinyddiaeth yn lleol. Bydd ymgeiswyr llawn amser yn dod i Athrofa Padarn Sant, Caerdydd am 48 awr, o ddydd Mercher i ddydd Gwener, am 30 wythnos y flwyddyn ac maent yn mynd ar leoliad am 2 ddiwrnod naill ai yn ardal Caerdydd neu yn ardal eu cartref, a allai fod yn unrhyw le yng Nghymru. Mae’r holl ymgeiswyr yn dilyn patrwm cyffredinol ar gyfer cyrsiau preswyl lle’r ydym yn dysgu am ddiwinyddiaeth ac ymarfer gweinidogaeth ynghyd. Mae’r dyddiadau ar gael gryn amser o flaen llaw a byddwch yn eu canfod yma. Mae’n hanfodol eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant felly nodwch y dyddiadau yn eich dyddiadur nawr.
Rydym hefyd yn credu bod yr hyfforddiant gorau yn ‘integredig’. Yr hyn a olygwn wrth hyn yw bod pob dim a ddysgwn, pa un a yw’n ddiwinyddiaeth academaidd, yn sgiliau gweinidogol neu’n dwf ysbrydol ac emosiynol, yn bwydo i mewn i’w gilydd ac yn hysbysu ei gilydd. Dyna pam mae pawb sy’n hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth â ni yn gwneud pob rhan o’r hyfforddiant, hyd yn oed os oes gennych lawer o brofiad mewn unrhyw faes unigol. Rydym bob tro eisiau adeiladu ar yr hyn yr ydych yn ei wybod eisoes a’ch cynorthwyo i symud ymlaen i’r cam nesaf. Mae mwy y gallwn ei ddysgu o hyd - mae ffurfiant ar gyfer y weinidogaeth yn daith gydol oes.
Cwrdd â'n hymgeiswyr
Pedair elfen sylfaenol ein hyfforddiant yw:
Diwinyddiaeth ac Ymarfer Gweinidogaeth a ddysgir ar ein cyrsiau preswyl
Byddwch yn mynychu 4 o gyrsiau preswyl y flwyddyn, a gynhelir mewn lleoliadau ledled Cymru - ysgol haf am wythnos gyfan (fel arfer y drydedd wythnos ym mis Awst) a thri phenwythnos. Byddwn yn edrych ar flaenoriaethau gwahanol esgobion ar gyfer gweinidogaeth ym mhob cwrs preswyl a byddwn yn cwrdd mewn grwpiau blwyddyn gwahanol i edrych ar ddiwinyddiaeth ac ymarfer pregethu ac arwain addoliad, gweithio gyda phobl o bob oed, gofal bugeiliol, arloesi a thyfu cymunedau Cristnogol newydd. Pob blwyddyn yn ystod yr ysgol haf, byddwn naill ai’n edrych ar Ysbrydolrwydd a gweddïo neu Arwain eich Eglwys i Dyfu neu Arweinyddiaeth gan ddilyn rhaglen dreigl.
Astudiaeth Ddiwinyddol
Mae Dysgu am Dduw yn agwedd bwysig ar ffurfiant ac mae pawb sy’n hyfforddi gyda ni yn dilyn rhyw fath o gwrs diwinyddiaeth. Mae’r rhan fwyaf o’r ymgeiswyr ar gyfer y weinidogaeth yn astudio ar ein rhaglen BTh (gradd), a ddilysir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac a ddyluniwyd yn benodol gan ystyried anghenion disgyblaeth a’r weinidogaeth.
Os oes gennych radd mewn diwinyddiaeth eisoes, byddwch yn gallu dilyn cwrs ôl-raddedig - ein cwrs Meistr fel arfer, sydd wedi’i ddilysu gan Brifysgol Durham. Os oes gennych radd Meistr mewn diwinyddiaeth eisoes, byddwch fel arfer yn gwneud rhyw fath o radd ymchwil. Rydym yn eich annog i gyrraedd eich potensial o ran cymwysterau diwinyddiaeth - mae angen addysgwyr diwinyddiaeth ar yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.
Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl os oes angen i chi drafod eich astudiaeth ddiwinyddol.
Celloedd Ffurfiannol
Byddwch hefyd yn perthyn i gell lle y byddwch yn cwrdd ag ymgeiswyr eraill, dan arweiniad arweinydd profiadol, i adlewyrchu ar eich ffurfiant. Mae’n grŵp pwysig sy’n dwyn ynghyd yr holl agweddau ar yr hyfforddiant, i rannu problemau, gofyn am gyngor a mewnwelediad, a dysgu rhagor o sgiliau drwy wrando ar eraill a’u cefnogi. Mae gweithio’n dda mewn grwpiau’n sgil pwysig yn y weinidogaeth ac, yn ogystal â chael cefnogaeth, byddwch yn dysgu sgiliau gwrando pwysig
Lleoliadau
Byddwch yn dod yn rhan o dîm gweinidogaeth yn eich lleoliad, yn ennill profiad ymarferol ac yn cael eich cefnogi gan weinidog profiadol. Mae gennym diwtor penodedig sy’n trefnu ac yn cefnogi lleoliadau. Bydd ymgeiswyr llawn amser mewn lleoliad am 2 ddiwrnod yr wythnos, a bydd ymgeiswyr rhan amser mewn lleoliad am o leiaf 4 awr yr wythnos.
Rhaglen llawn amser
Fel arfer, os ydych yn hyfforddi ar gyfer gweinidogaeth llawn amser, byddwch yn hyfforddi ar y rhaglen llawn amser. Ar hyn o bryd, mae hyn yn 30 wythnos y flwyddyn, gyda 48 awr yn Athrofa Padarn Sant, Caerdydd lle y byddwch yn gwneud peth o’r elfennau sylfaenol e.e. y gell ffurfiannol, astudiaeth ddiwinyddol yn ogystal â Chymraeg (os nad ydych yn siarad Cymraeg eisoes), addoli (mae’r holl addoli wedi’i drefnu a’i werthuso mewn grwpiau) a rhaglen o weithdai ac astudiaeth gan ymarferwyr profiadol. Pob tymor, rydym yn cynnal digwyddiad gweddïo arbennig gyda siaradwr gwadd. Mae’r siaradwyr blaenorol yn cynnwys Rowan Williams, Malcolm Guite a Joanna Collicutt. Yr wythnos arferol yn ystod yr wythnosau hynny yw:
Dydd Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher-Gwener
Dydd Sadwrn
Lleoliad
Lleoliad neu ddiwrnod astudio
Lleoliad neu diwrnod astudio yn ddibynnol ar beth wnaethoch ddydd Llun
Athrofa Padarn Sant- Caerdydd
Diwrnod i ffwrdd
Oes yn rhaid i mi dalu am y cwrs hwn?
Nac oes. Mae’r Eglwys yng Nghymru hefyd yn darparu grantiau i’r rheini sy’n hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth. Ar gyfer ymgeiswyr rhan amser, mae hyn yn £435 y flwyddyn ar hyn o bryd a darperir treuliau am deithio. Ar gyfer ymgeiswyr llawn amser, gweler yr ateb isod.
Nac oes. Mae'r Eglwys yng Nghymru hefyd yn rhoi grantiau i bobl sy'n hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth. O ran ymgeiswyr rhan-amser mae hyn yn £435 y flwyddyn ar hyn o bryd a darperir treuliau ar gyfer teithio. O ran ymgeiswyr amser llawn, gweler yr ateb isod.
Hoffwn hyfforddi'n amser llawn ar gyfer y Weinidogaeth ond rwy’n poeni na fyddaf yn gallu fforddio hynny.
Gweler y cwestiwn uchod. Does dim ffi, ac mae grantiau ar gael, i ymgeiswyr amser llawn, i dalu am gostau byw sylfaenol. Cyfrifir y grant hwn yn unigol gan ddibynnu ar gostau tai, incwm y cartref a chostau byw eraill. Pan fydd Athrofa Padarn Sant wedi cael ffurflen noddi'r ymgeisydd gan eu hesgobaeth, mae'r wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Adran Gyllid yr Eglwys yng Nghymru. Byddan nhw'n anfon rhagor o wybodaeth am yr hawl i gael grant a ffurflenni i'w llenwi er mwyn gwneud cais am grantiau.
Mae rhifau isod ar gyfer 2024 ac mi fydd rhifau 2025 ar gael cyn hir.
Cyfrifiannell 2024-2025 yn y broses o gael ei ddiweddaru
*I’r ymgeiswyr newydd sy’n byw mewn cartref i glerigion yn barod, cysylltwch â’r Rheolwr Gwasanaethau i Ddysgwyr*
Gan fod amgylchiadau pawb yn wahanol, cysylltwch â Siân Trotman, Rheolwr Gwasanaethau i Ddysgwyr sy'n ymdrin â grantiau, ac yn hapus iawn i'ch helpu.
Fel arfer, gwneir y penderfyniad ynghyd rhwng eich esgob, swyddog y weinidogaeth a ninnau. I arwain y penderfyniadau hyn, mae’r fainc o esgobion wedi cytuno ar y canllawiau a ganlyn ar gyfer hyfforddiant ordineiddio:
I’r rheini sy’n ymgymryd â gweinidogaeth ordeiniedig llawn amser:
• Y disgwyliad fydd hyfforddiant llawn amser am 3 blynedd ar gyfer yr holl glerigwyr cyflogedig
• Os oes gan ordinand brofiad sylweddol o Weinidogaeth Drwyddedig Leyg, byddai’n briodol ystyried dwy flynedd.
• Os oes gan ordinand brofiad bywyd sylweddol a sgiliau trosglwyddadwy, mae’n bosibl y bydd dwy flynedd yn briodol. Byddai hyn yn cael ei fapio yn erbyn meini prawf blaenoriaethau’r esgobion.
• Os oes gan ordinand gymwysterau diwinyddol eisoes (e.e. Tystysgrif Addysg Uwch, Diploma Addysg Uwch, gradd israddedig neu ôl-raddedig), mae’n bosibl y bydd yn briodol ystyried dwy flynedd.
• Byddai ordinandiaid sydd eisoes â gradd neu’r cymwysterau uchod mewn diwinyddiaeth, ac yn enwedig os oes ganddynt botensial i fod yn addysgwr diwinyddiaeth, yn cael eu hannog i gwblhau gradd Meistr neu radd ymchwil.
• Dylai pawb sy’n ymgymryd â gweinidogaeth ordeiniedig llawn amser fod ag o leiaf ddiploma mewn diwinyddiaeth erbyn diwedd eu hyfforddiant.
• Mewn achosion eithriadol, gallwn ddatblygu hyfforddiant diwinyddiaeth pwrpasol ochr yn ochr ag agweddau eraill ar ffurfiant, ond mae’n well gennym weld ordinandiaid yn gweithio tuag at gymhwyster os yn bosibl.
• Hyfforddiant dros ddwy flynedd yw’r isafswm y byddem yn ei argymell ar gyfer gweinidogaeth llawn amser, ar wahân i mewn amgylchiadau anarferol e.e. gweinidog ordeiniedig o enwad arall yn ymuno â gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru, neu am resymau eraill o ran oedran neu brofiad sylweddol.
Ar gyfer y rheini sy’n ymgymryd â gweinidogaeth ordeiniedig rhan amser a / neu ddigyflog
• Bydd y rheini sy’n ymgymryd â gweinidogaeth ordeiniedig rhan amser neu ddigyflog fel arfer yn hyfforddi’n rhan amser.
• Fel arfer, byddai’r hyfforddiant rhan amser yn cymryd 3 blynedd (am y rheswm hwn, byddem yn annog ymgeiswyr posibl ar gyfer gweinidogaeth ordeiniedig rhan amser i ddechrau Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd am flwyddyn yn ystod y broses ddirnadaeth fel y gallant gwblhau diploma mewn diwinyddiaeth yn ystod y tair blynedd o hyfforddiant)
• Bydd angen trafodaeth bellach ar y rheini na fydd yn gallu ennill diploma erbyn diwedd eu hyfforddiant
• Os oes gan ordinand brofiad sylweddol o Weinidogaeth Drwyddedig Leyg, mae’n bosibl y bydd 2 flynedd yn briodol.
• Os oes gan ordinand radd, neu mewn rhai achosion ddiploma, mewn diwinyddiaeth, mae’n bosibl y bydd 2 flynedd yn briodol.
• Mewn achosion eithriadol, gallwn ddatblygu hyfforddiant diwinyddol pwrpasol ochr yn ochr ag agweddau eraill ar ffurfiant, ond byddem yn disgwyl i’r mwyafrif llethol fod yn gweithio tuag at gymhwyster diwinyddol.
Credwn fod ffurfiant yn digwydd ym mhob agwedd ar y cwrs. Mae Duw am ein trawsnewid fel pobl gyfan, ein calonnau a’n meddyliau, ein hymarfer a’n dealltwriaeth o ffydd. Rydym yn hoffi’r diffiniad o ffurfiant yn llyfr Joanna Collicutt, The Psychology of Christian Character Formation. Mae’n ysgrifennu:
‘Christian spiritual formation can be understood as the transforming work of the Spirit in every aspect of the life of the believer…… formation is seen to involve the whole of a person’s life – embodied thinking, feeling, acting and being in relationship…..The work of the Spirit is not to change a person into something she is not, but to enable that person to be truly and fully herself. The Spirit is, after all, also the authentic Spirit of truth (John 14.17; 15.26; 16.13).’ (Collicutt 2015 pennod 1).
Felly, mae dysgu am ddiwinyddiaeth, cael eich hyfforddi ynghylch sut i bregethu a llunio gwasanaeth, dysgu am bwysigrwydd gwrando’n dda mewn cell ffurfiannol, a hyd yn oed dysgu sut i dynnu ymlaen yn dda â phobl sy’n wahanol iawn i ni ar y cwrs, oll yn ‘ffurfiannol’, wrth i ni dyfu i fod y fersiwn gorau o’n hunain yng Nghrist drwy’r profiadau gwahanol ar y cwrs. Yn ystod yr hyfforddiant, byddwch hefyd yn cwrdd â’ch tiwtor ffurfiant i drafod hyn yn rheolaidd.
Mae hyfforddiant rhan amser yn cymryd tua 15 awr yr wythnos. Mae hyn yn cynnwys mynd ar leoliad, astudiaeth ddiwinyddol, cyrsiau preswyl a chelloedd ffurfiannol. Mae’n bwysig iawn eich bod yn ystyried yn ofalus iawn a allwch wneud y math hwn o ymrwymiad amser cyn dechrau’r broses ddirnadaeth a hyfforddi. Fodd bynnag, byddwn yn gweithio gyda chi i’ch cynorthwyo i flaenoriaethu eich amser os bydd eich esgob yn eich noddi i hyfforddi. Bydd angen i chi ystyried hefyd a ydych yn gallu ymrwymo’r amser ar gyfer cwrs preswyl am wythnos a thri phenwythnos preswyl y flwyddyn. Mae hyfforddi i’r weinidogaeth yn ymrwymiad pwysig, ac rydym bob tro’n hapus i drafod manylion yr hyfforddiant gyda chi.
Os ydych yn newydd i astudio diwinyddiaeth, edrychwch am unrhyw gyrsiau blasu a hysbysebir yn y gaeaf ac sy’n cael eu cynnal yn gynnar yn y gwanwyn. Pob blwyddyn, rydym yn cynnal dyddiau a nosweithiau agored yn y gwanwyn felly archebwch le ar y rhain. Bydd y rhain oll yn cael eu hysbysebu ar ein cyfryngau cymdeithasol felly byddem yn argymell eich bod yn dod yn gyfaill i ni / yn ein dilyn arnynt, er ein bod hefyd yn anfon y wybodaeth at y Cyfarwyddwyr Ordinandiaid Esgobaethol a’r esgobaethau. Darllenwch yr holl wybodaeth yma yn ofalus ac ymgyfarwyddwch â’r cwrs. Pob gaeaf, rydym hefyd yn cynhyrchu ac yn uwchlwytho taflen newydd o’r enw ‘Help Rwyf wedi cael fy nerbyn i hyfforddi’. Ceir gwybodaeth ddefnyddiol ynddi ac, yn fwyaf pwysig, y dyddiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae gennym daflen ‘Paratoi ar gyfer Athrofa Padarn Sant’ ar-lein yn yr adran hon hefyd.
Ar ôl pob cylch o’r panelau dirnadaeth taleithiol, bydd y Cyfarwyddwyr Ordinandiaid Esgobaethol yn anfon enwau'r rheini a dderbyniwyd i’w hyfforddi atom. Yna bydd tiwtor yn cysylltu â chi i gael sgwrs am eich hyfforddiant. Nid oes angen i chi gysylltu â ni, byddwn ni yn cysylltu â chi. Darllenwch y wybodaeth ar y wefan hon yn ofalus cyn y sgwrs honno a meddyliwch am unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn. Fodd bynnag, os oes gennych ymholiad neu bryder penodol, mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol.
Ar y dudalen hon, byddwch hefyd yn canfod y llawlyfrau a ddefnyddiwn ar hyn o bryd.
Gwelwch y cwestiwn uchod. Nid oes cost, ac mae grantiau ar gael i ymgeiswyr llawn amser, i dalu am gostau byw sylfaenol. Caiff y grant hwn ei gyfrifo yn unigol yn ddibynnol ar tai, incwm cartref a chostau byw eraill. Unwaith i ymgeiswyr ffurflen dderbyn nawdd ymgeisydd wrth ei esgobaeth, bydd y wybodaeth yn cael ei drosglwyddo i Adran Gyllid yr Eglwys yng Nghymru. Byddan nhw yn danfon fwy o wybodaeth am hawliau grant a ffurflenni sydd angen eu cwblhau er mwyn ymegisio am grantiau. Gallwch weld fwy o wybodaeth ynghylch Graantiau Cymorth Hyfforddi yma: Gwybodaeth am Grantiau Cymorth
Bydd gan bob ymgeisydd diwtor ei hunain bydd yn gweithio gyda nhw ar eu ffurfiant, mewn cyfarfodydd rheolaidd. Mae yna hefyd cefnogaeth i rheiny â anghenion dysggu, ac mae'r tiwtoriaid yn hawdd fynd atynt ac yn gyfeillgar ac yn hapus i gynnig cymorth.Mae'r tim ehangach ym Mhadarn Sant hefyd yn hapus i rhoi cymorth gydag amrywiaeth o ymholiadau ac i gael mynediad at y llyfrgell ac adnoddau eraill.
Gallwch ddarllen fwy am Baratoi ar gyfer Athrofa Padarn Sant isod:
Help! Rwyf wedi cael fy nerbyn i hyfforddi
Mwy o wybodaeth am yr hyfforddiant a beth i ddisgwyl