Carolau yn yr Eglwysi Cadeiriol - 2019
Stori newyddion da dymhorol yr wythnos hon yn edrych ar weithgareddau i blant yn ein heglwysi cadeiriol
Mae'n ganol wythnos ar ddechrau mis Rhagfyr ac mae strydoedd Aberhonddu yn llawn plant yn cerdded tuag at yr Eglwys Gadeiriol. Mae athrawon yn arwain y ffordd fel Moses yn arwain plant Israel. Maent yn cerdded fesul dau, yn drefnus iawn, ond yn amlwg yn gyffrous iawn hefyd. Wedi'u gwisgo yn eu gwisg ysgol, ond y gwisgoedd hynny wedi'u cuddio o dan gotiau trwchus, sgarffiau a hetiau. Mae'n sych, ond yn sicr nid yn gynnes. Maen nhw'n mynd i'r Eglwys Gadeiriol ar gyfer y digwyddiad Carolau yn yr Eglwysi Cadeiriol i Blant. Trefnwyd y digwyddiad gan Gyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth, Sefydliad Padarn Sant a Scripture Union Cymru.
Am 10:30am mae'r dosbarth olaf wedi cyrraedd, mae pob cadair yn yr adeilad yn llawn, ac Eglwys Gadeiriol Aberhonddu dan ei sang gyda phlant yn llawn cyffro am y gweithgareddau sydd ar fin cael eu cynnal.
Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei ailadrodd mewn sawl Eglwys Gadeiriol ac yn Abaty Margam. Ond heddiw rydym yn Aberhonddu. Mae Simon Parry a Thimau All Stars yn cael cymorth gan rai o'n swyddogion ieuenctid a phlant o Gymru ac ar y diwrnod penodol hwn, gyda chymorth yr Archesgob hefyd. Mae sesiynau torri'r garw yn cael eu cynnal ac yna, ar ôl ychydig o dynnu coes gyda Simon, mae'r Archesgob yn siarad â'r plant am yr Eglwys Gadeiriol ac am y Nadolig. Mae ganddynt ddiddordeb mawr ym magl yr Archesgob ac maent yn amlwg yn awyddus iawn i ofyn cwestiynau.
Yn ddiweddar, mae Meilyr Rees, rhan o’r tîm, wedi rhyddhau CD o ganeuon Cymraeg i blant, felly mae caneuon yn dilyn yn Gymraeg a Saesneg. Ac yna mae'n bryd cael gêm sy'n cynnwys athrawon a chacennau cwstard. Mae'r plant yn amlwg yn ecstatig. Yna gêm gwisgo i fyny wrth i athrawon ail-greu drama'r geni gan wisgo gwisg y cymeriad a grybwyllir wrth i’r stori fynd yn ei blaen. Mae'r athrawon yn amlwg wedi mynd i hwyl y Nadolig hefyd.
Yna gweithgareddau crefftau, gweddïau a chinio. Mae wedi'i drefnu'n wych ac yn edrych fel y picnic mwyaf rhyfeddol yn yr Eglwys Gadeiriol gyda phlant ac athrawon a'r tîm yn eistedd mewn cylchoedd yn sgwrsio ac yn bwyta.
Rhagor o gemau yn y prynhawn ynghyd â straeon, cyflwyniadau ar yr efengyl ac yna 4 awr ar ôl i ni ddechrau, mae'n bryd i'r bererindod droi am adref ac i'r plant ddychwelyd i'w hysgolion. Ond un peth bach arall i orffen, anrheg i bob plentyn wrth iddo adael. Mae'r plant yn sgwrsio'n gyffrous. Yn ogystal â chlywed am lawenydd y tymor hwn, maen nhw hefyd wedi cael profiad ohono. Daeth tîm All Stars, cantorion/cyfansoddwyr lleol, addysg esgobaethol, plant, swyddogion ieuenctid a theulu, Padarn Sant, Scripture Union, athrawon a'r Archesgob John i gyd ynghyd i wneud hwn yn ddigwyddiad rhyfeddol a oedd yn cyflwyno cariad, llawenydd a heddwch Duw adeg y Nadolig.
A’r gwir bŵer oedd, byddai’n cael ei ailadrodd dro ar ôl tro i dros fil o blant, gan ailddatgan ymrwymiad yr Eglwys yng Nghymru i blant ac ysgolion ledled y dalaith.