Calan Gaeaf 2019
Rhannu Newyddion da
Dros y pum wythnos nesaf bydd Padarn Sant yn cyflwyno cyfres o straeon NEWYDDION DA o amgylch yr esgobaethau. I ddechrau, dyma hanes amserol o ddigwyddiad a gynhaliwyd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi'r Hydref diwethaf.
Mae pob amser yn gyfnod cymhleth i eglwysi a rhieni a gofalwyr Cristnogol. Beth wnawn ni gyda’r plant y Calan Gaeaf hwn? Mae’r holl blant yn yr ysgol yn paratoi eu gwisgoedd ac yn gyffrous am y siocled a’r danteithion y gallant gasglu wrth iddynt grwydro o amgylch y gymdogaeth yn holi tric neu trît. Mae’r Curad Sophie Whitmarsh yn trafod yr ateb yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Yn 2019 fe benderfynodd Eglwys Gadeiriol Tyddewi y byddent yn trio rhywbeth ychydig yn wahanol. Yn lle ymglymu ei hunain mewn pob dim tywyll, fe agoron nhw ddrysau’r eglwys gadeiriol ar gyfer noson o gemau, bwyd, dawnsio ac addoli. Fe ddaeth y syniad am ‘Rave in the Nave’ yn yr Eglwys Gadeiriol gan Barch Ganon Leigh Richardson, ac yn gyflym wedyn rhoddodd ei gurad Parch Sophie Whitmarsh i waith i drefnu’r noson a fyddai’n profi yn hynod lwyddiannus mewn sawl ffordd.
Fe gynhaliwyd Rave in the Nave ar 25 Hydref 2019 ar yr adeg pan roedd ysgolion yn dechrau eu gwyliau hanner tymor. Roedd yr wythnos yn arwain i fyny I Rave in the Nave, yn llawn ansicrwydd gyda phobl yn bwcio lle ac yna’n canslo, ac roedd yn edrych yn bur debyg y byddai niferoedd yn ddigon uchel. Search hyn, fe wnaethon nhw fynd yn ei blaen ac am 7.00 pm ar nos Wener fe agorwyd y drysau ar gyfer Rave in the Nave cyntaf Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Fe ddaeth tua 20 o bobl ifanc i’r digwyddiad, ac er and yw’r rhif yn un sylweddol, roedd yn fwy na obeithiwyd, gan mai digwyddiad newydd ydoedd. Fe ddechreuodd y noson gydag addoliad dan arweiniad Seion Morris a Don McGregor. Fe danlinellodd y goleuadau disco brydferthwch yr eglwys gadeiriol a chreu awyrgylch hyfryd i’r bobl ifanc i fwynhau.
Yn nesaf roedd nifer o gemau. Roedd yn ymdrech tîm, wrth i aelodau o’r weinidogaeth ac aelodau o’r tîm ar draws y dalaith weithio gyda’i gilydd i drefnu a hwyluso’r gemau, a oedd yn cynnwys twca afalau, llusgo penolau i fyny ac i lawr yr ystlysau, noodleloons, a gemau cyffrous eraill a lwyddodd i flino’r arweinwyr ac o bosib y bobl ifanc.
Roedd yna hefyd fwyd, a dderbyniwyd fel rhodd gan Morrisons a Tesco. Cafodd hyn ei ddilyn gan fwy o gemau ac yna dawnsio yn yr eglwys. Roedd y dawnsio yn cynnwys Cha Cha slide a’r Macarena, tra bo’r rheiny ohonom sydd a meddwl nwy litwrgaidd ( yn enwi neb) yn teimlo bod diffyg peiriant mwg ac felly fe ddaeth yr arogldarth allan…nid wyf i erioed wedi gweld gymaint o arogldarth yn cael ei losgi, ond fe wnaeth y goleuadau disco i sefyll allan!!
Fe ddaeth y noson i ben gyda mwy o ganu a’r bobl ifanc wir yn mwynhau’r cyfle i ymlacio ac addoli ac eraill o’i hamgylch. Yn anffodus mae’n edrych yn bur annhebyg y byddwn yn medru cynnal Rave in Nave eleni oherwydd lledaeniad Covid-19. Fodd bynnag, rydym yn obeithiol y bydd Rave in the Nave blwyddyn nesaf yn fwy ac yn well.