Impact 242 Crosshands
Yr wythnos hon rydym yn edrych ar sut mae un o'n heglwysi yn ymateb i heriau Covid.
Daeth Victoria Jones yn offeiriad ar eglwysi Crosshands, Gorslas, Tycroes, Saron a Llanedi - poblogaeth o ychydig dros 22,000 - ym mis Medi 2015. Yn 2018 rhoddodd Duw weledigaeth iddi ar gyfer Crosshands, i sefydlu canolfan plant, pobl ifanc a theuluoedd drwy blannu eglwys newydd ar gyfer y rhai nad ydynt yn ymwneud â'r eglwys, man chwarae meddal, caffi a chanolfan ieuenctid galw heibio. Datblygodd y weledigaeth dros amser ac ar ddechrau 2020, rhyddhaodd yr Esgob Joanna hi o weinidogaeth plwyf i wireddu'r weledigaeth, a ganed Impact 242. Victoria sy'n adrodd yr hanes.
Fe wnaethon ni lofnodi'r contract ar gyfer yr adeilad rydyn ni'n ei ddefnyddio, sydd drws nesaf i'r sinema gymunedol, ddiwedd mis Mawrth eleni ar yr union adeg pan ddechreuodd y cyfnod clo oherwydd COVID 19. Ond ymhell o fod yn rhywbeth negyddol, rhoddodd gyfle euraidd i ni wasanaethu ein cymuned mewn cyfnod o angen dirfawr. Fe wnaethom agor banc bwyd brys gyda neges glir i'n cymuned, os oes angen bwyd arnoch chi, yna mae e yma i chi. Roedd hwn yn gyfnod o ddibynnu ar Dduw a gofyn iddo ein tywys. O fewn 24 awr roeddem yn casglu bwyd dros ben o archfarchnadoedd ac yn cysylltu â FareShare a dechreuodd y gymuned ehangach ymateb mewn ffyrdd cyffrous i godi arian i gefnogi'r fenter newydd hon - mae cydnabod bod 90% o'n rhoddion yn dod gan bobl nad ydynt yn gysylltiedig ag unrhyw eglwys yn gwneud i rywun deimlo'n wylaidd.
Mae diwrnod arferol yn dechrau ychydig ar ôl naw o'r gloch, gyda phawb yn torchi llewys, gan sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer y rhai sydd angen ein gwasanaethau. Rydyn ni'n agor y banc bwyd am 10am. Mae'r prynhawn yn cael ei dreulio'n ailstocio, yn casglu stoc ychwanegol, yn sicrhau cyflenwad da o gynhyrchion bwyd ffres ochr yn ochr â'r tuniau hanfodol o gynnyrch. Ac nid dyna'i diwedd hi. Gyda'r nosau yw'r prif amser ar gyfer casglu bwyd o archfarchnadoedd, ac yna'i ddadbacio, yn aml tan 10pm.
Er bod llawer o eglwysi wedi teimlo effaith negyddol Covid-19, roedd yn fan cychwyn perffaith i ni mewn sawl ffordd. Roeddem wedi cynllunio ystod o weithgareddau, ond ni fyddai unrhyw un ohonynt wedi rhoi'r math o ymgysylltiad cymunedol i ni a gawsom drwy'r banc bwyd - mae pobl yn ein cymuned bellach yn gwybod pwy ydyn ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi bod yn lle y gall pobl droi ato pan fyddant ar eu mwyaf bregus ac yn wynebu adfyd. Rydym wedi gallu ymateb ar unwaith i angen, ond ar yr un pryd, yn gallu cyfeirio pobl at gymorth ychwanegol a chlust i wrando. Lle i'r newynog ddod o hyd i fwyd, i'r unig ddod o hyd i gwmnïaeth ac i'r clwyfedig ddod o hyd i dosturi. Yr efengyl ar waith ar sawl lefel.
Gofynnodd y GIG i ni ddarparu parseli bwyd bob wythnos ar gyfer 13 o deuluoedd yn Sir Gaerfyrddin a oedd â phlentyn sy'n cael gofal lliniarol gartref. Fe wnaethom greu dros 400 o fagiau ymolchi ar gyfer cleifion mewn ysbytai a 10 hamper o ddeunyddiau ymolchi ar gyfer nyrsys ar wardiau. Fe wnaethom gynnal cystadlaethau i blant a threfnu 31 o fagiau bendith yn gofyn i'r gymuned enwebu rhywun a oedd yn haeddu ychydig o foethusrwydd. Fe wnaethom gynnal sawl raffl a gwerthu enfysau gwlân wedi'u crosio i godi arian a threfnu cyfleuster cyfnewid llyfrau a DVD. Hyd yma rydym wedi casglu 5 cot, 4 basged Moses, 5 giât grisiau, dwy gadair uchel, 2 fygi newydd sbon, 10 crât o ddillad a llwythi o glytiau a llaeth ar gyfer y rhai â phlant ifanc iawn.
Ychydig iawn o'n gwirfoddolwyr sy'n eglwyswyr, ond, mae bod yn yr amgylchedd hwn a gweld yr hyn rydym yn ei wneud yn dweud cyfrolau wrthyn nhw. Mae sgyrsiau am ffydd bellach yn rhan gyffredin o'n dyddiau wrth i ni barhau i ennyn ymddiriedaeth a chreu perthnasoedd. A phan fydd y gwaethaf yn digwydd, maen nhw wedi gofyn i mi arwain yr angladd.
Mae'r ddarpariaeth gan Dduw wedi bod yn aruthrol ac yn aml cyn i ni sylweddoli mai ychydig iawn o ddarpariaeth sydd ar ôl, bydd rhywun yn cerdded drwy'r drws gyda bag siopa yn llawn bwyd neu rodd ariannol. Daeth un dyn â rhodd o £181 ar gyfer y banc bwyd. Dywedodd fod £100 yn gyfraniad ganddo ef a bod ei 3 phlentyn wedi gwagio eu cadw-mi-gei i'w rhoi i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd gan gyfrannu £81 rhyngddynt. Mae'n anodd peidio â chael eich cyffwrdd gan y fath haelioni.
Fy mreuddwyd yw parhau, a pheidio â mynd i rigol o wneud yr un peth. Ac i ddal i ofyn y cwestiwn, beth nesaf Dduw!?! Mae angen i ni bob amser fod yn barod ac ar gael i wasanaethu ein cymuned beth bynnag fo'r angen. Ac mae hynny'n golygu canolbwyntio ar Iesu a bod yn barod i wneud beth bynnag y mae'n ei ofyn ohonom. Bod yn feiddgar a chamu allan gyda ffydd a chalon gwas lle bynnag mae'r Ysbryd Glân yn ein harwain.