Yn Cyflwyno ein Harbenigedd Cyfraith Ganonaidd
Mae Athrofa Padarn Sant yn hynod o gyffrous i gyhoeddi lansiad ei harbenigedd Cyfraith Ganonaidd fel rhan o’i rhaglen MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth.
Wedi’i gynllunio ar gyfer clerigion, cyfreithwyr, gweinyddwyr eglwys neu unrhyw un sydd â diddordeb mewn tyfu ei dealltwriaeth o chyfraith ganonaidd yng nghyd-destun gweinidogaeth a chenhadaeth. Arbenigedd Cyfraith Ganonaidd Athrofa Padarn Sant yw’r unig raglen cyfraith ganonaidd ôl-raddedig â ffocws Anglicanaidd a gynigir unrhyw le yn y byd. Wedi ei ddisgrifio fel ‘ eglwysoleg gymhwysol’ mae’r arbenigedd hon yn rhannu sut mae egwyddorion cyfreithiol yn medru cyfrannu at weinidogaeth a chenhadaeth. Yn ogystal bydd yn cyfrannu at feysydd eciwmenaidd, eglwysoleg, hanes yr eglwys ac astudiaethau Anglicanaidd ac yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu gweinidogaeth neu ymarfer broffesiynol ac ehangu eu gwybodaeth am y ffordd y caiff cymunedau eglwysig eu rheoleiddio.
Dywedodd yr Athro Ganon Jeremy Duff, Pennaeth Athrofa Padarn Sant, “Rydym yn gyffrous iawn i lansio’r Arbenigedd MA Cyfraith Ganonaidd hon, ac adeiladu ar y berthynas sydd gennym eisoes â’r cwrs astudiaethau cyfraith ganonaidd, yn dilyn eu croesawu nhw atom am nifer o flynyddoedd. Caiff y rhaglen ei harwain gan dîm o diwtoriaid profiadol ym meysydd crefydd a chyfraith“.
Ychwanegodd yr Anrhydeddus Syr Robert Buckland KBE KC AS “Bydd yr Eglwys a’r gyfraith yn sicr yn gyfoethocach o gael y cwrs hwn.”
Am fwy o wybodaeth cysylltwch: Tina Franklin, Cydlynydd Rhaglenni Ôl-radd tina.franklin@stpadarns.ac.uk new ewch i www.stpadarns.ac.uk/cy/Cyfraithganonaidd