Arweinydd Rhaglen Diwinyddiaeth Newydd yn cael ei benodi
Mae Athrofa Padarn Sant yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Dr Charlie Hadjiev yn Gyfarwyddwr MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth
Yn wreiddiol o Sofia, Bwlgaria, fe astudiodd Charlie y Gyfraith yn Sofia, diwinyddiaeth yn Llundain a chwblhau ei ddoethuriaeth yn Rhydychen. Mae ef wedi dysgu Astudiaethau Beiblaidd yng Ngholeg Beiblaidd Belfast a Phrifysgol y Frenhines Belfast ers 2011, ac wedi datblygu MA mewn Gweinidogaeth Gristnogol a’r Beibl yn y Byd Cyfoes, sy’n llwyddiannus dros ben. Cyn hynny fe fu mewn swyddi academaidd ac yn y weinidogaeth ym Mwlgaria a Brwsel. Mae e hefyd yn olygydd Hen Destament ar brosiect sy’n diwygio cyfieithiad Bwlgaraidd o’r Beibl. Yn ogystal â’i waith ar y cwrs MA, a dysgu ar draws Athrofa Padarn Sant, bydd gan Charlie gyfrifoldeb penodol dros adnoddau dysgu a defnydd technoleg i gynorthwyo dysgu, drwy weithio ag Anna ein llyfrgellydd.
Meddai’r Canon Athro Jeremy Duff, Pennaeth Athrofa Padarn Sant,“Mae Charlie yn benodiad gwych i’r tîm, mae ganddo brofiad sylweddol o’r meddwl academaidd lefel uwch sydd ynghlwm â gweinidogaethu mewn byd cyfoes, ac mae ganddo hefyd brofiad helaeth mewn datblygu rhaglenni ac ymchwil. Yn ogystal bydd ei brofiad a’i gefndir rhyngwladol yn ehangu ein persbectif ac agor ein llygaid i waith Duw yn ein byd.”
Dywedodd Charlie “Rwy’n hynod gyffrous i ymuno â chymuned Athrofa Padarn Sant. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o fywyd yr Eglwys yng Nghymru a bod yn rhan o genhadaeth Duw drwy addysg ddiwinyddol.”
Bydd Charlie yn dechrau yn ei swydd ar 1 Gorffennaf 2023.