Munud i feddwl: 'Must have'
‘Must Have’
Flynyddoedd lawer yn ôl, pan oeddwn yn gweithio i Gymdeithas Genhadol yr Eglwys (‘Church Missionary Society’ bryd hynny, ‘Church Mission Society’ heddiw), rwy’n cofio gweld ffilm (efallai gan Tear Fund) ynghylch newyn enbyd – mae’n debyg mai yn Ethiopia a’r cyffiniau oedd hynny, gan mai cyfnod y ‘Band Aid’ cyntaf oedd hi. Ar un pwynt yn y ffilm, mae cyfweliad â hen ŵr, wel dyn oedd yn edrych yn hen, beth bynnag, heb fawr o gig ar ei esgyrn ac ond un dant yn ei ben yn ôl pob golwg. Adroddodd hanes echrydus effaith y newyn arno yntau a’i deulu. Bu farw ei wraig a nifer o’u plant ac roedd ei wartheg hefyd i gyd wedi mynd, heblaw un. A throdd at yr un fuwch honno, nad oedd fawr mwy na sgerbwd byw ac yn amlwg ar fin trengi ei hun.
Roedd y sawl oedd y tu ôl i’r camera yn amlwg yn ymbalfalu am eiriau a fyddai unrhyw le’n agos at addas o dan y fath amgylchiadau, ac yn y diwedd dyma ofyn rhywbeth fel: “Sut ar y ddaear dach chi’n medru ymdopi â’ch bywyd o gwbwl, a phethau mor ofnadwy arnoch?” Ac, er gwaethaf popeth, gwenu wnaeth y dyn drwy ei drueni: “Iesu Grist. Mae gen i Iesu Grist.” Ac o’r hyn rwy’n ei gofio, diweddodd yr olygfa gyda’r geiriau hynny. Doedd yna, mewn difrif, ddim byd mwy i’w ddweud.
Bydd y darn o ffilm yna’n aml yn dod i’m meddwl ar yr adeg hon o’r flwyddyn, tymor y ‘rhaid cael’, y ‘must have’. ‘The must have gift for her this Christmas’, ‘The must have Black Friday deal’, ac anogaethau tebyg megis ‘You really can’t miss this offer on Xmas essentials’. Sgwn i beth fyddai’r dyn yna yn ei dlodi eithaf wedi ei wneud o’r peth pe byddai wedi ei gludo ar amrantiad i ganol ein Tachwedd ‘rhaid cael’ ninnau?
Mae’r tymor hwn hefyd yn fy atgoffa o ddywediad oedd gan Mam pan oeddwn yn blentyn ac yn mynnu bod rhaid, ia, rhaid, i mi gael rhywbeth – rhyw degan, fel arfer, gan nad oedd gen i fawr o ddiddordeb mewn dillad ac ati bryd hynny. ‘Ti fel “Mr Mae’n Rhaid i Mi Gael”’ fyddai hi’n ei ddweud. Wn i ddim a oedd hwn yn gymeriad mewn rhyw lyfr (nid wyf wedi gallu ei ddarganfod yn llechu unrhyw le ar y we) – ynte ai creadigaeth fy Mam neu rywun arall yn y teulu ydoedd – ond mae Mr Mae’n Rhaid i Mi Gael yn bendant fyw ac yn iach mewn cymdeithas yn y byd Gorllewinol heddiw!
Wrth i dymor yr Adfent agosáu, cofiwn ei fod, yn draddodiadol, yn gyfnod ar gyfer myfyrdod ac edifeirwch, nid yn annhebyg i’r Grawys. Yn anffodus, nid yw’n hawdd i neb ohonom osgoi prysurdeb a phrynu’r cyfnod yn arwain at y Nadolig yn llwyr – a rhaid cyfaddef bod yna hwyl a gwefr mewn chwilio am yr union anrheg ar gyfer pob un o’n cydnabod, ac mae’n bleser derbyn yr union anrheg hefyd, wrth gwrs. Ond pan ddaw hi’n fater o’r hyn mae’n wir raid i ni ei gael adeg y Nadolig a phob adeg arall, byddai’n her ac yn fendith i ni gofio’r hyn, a’r un, a ddaeth â gwên i wyneb y dyn yna yn ei newyn a’i drallod, a gweddïo y gallwn ninnau gofleidio’r un ateb yng nghanol ein gormodedd ni.
Dr Siôn Aled Owen