Munud i feddwl: Cannwyll y Cymry
Tybed faint o’r pregethau rydych chi wedi eu clywed ydych chi’n eu cofio? Nid gofyn am eu cofio air am air ydw i, wrth gwrs, ond am gofio’r brif neges neu negeseuon? Dim llawer fyddwn i’n tybio. Ond beth am y straeon a fwriedid ar gyfer plant glywsoch chi yn yr eglwys neu’r capel, yn yr ysgol Sul neu yn yr ysgol ddyddiol? Byddwn yn fodlon mentro dweud eich bod yn cofio llawer mwy o’r rheini, ac yn fodlon maentumio pam hefyd – oherwydd eu bod wedi creu darluniau yn eich meddyliau, darluniau sydd wedi aros.
Yn fy hanes innau, doedd y darluniau hynny ddim bob tro’r hyn a fwriadai’r storïwr debyg, ac yn hynny o beth doedd y ffaith i mi dderbyn y rhan fwyaf o’m haddysg gynnar, yn grefyddol a seciwlar, drwy gyfrwng fy ail iaith, sef Saesneg, ddim yn helpu. Er enghraifft, dw i’n cofio clywed stori Puss in Boots am y tro cyntaf, a gweld yn fy meddwl y gath dan sylw (ac roeddwn yn hoff iawn o gathod, ac yn dal i fod) yn y fferyllfa ar Stryd Fawr Bangor o’r enw Boots, wrth gwrs! Ac yna, yn yr Ysgol Sul, yn dychmygu Pilat fel un o’r bobl yna oedd yn hedfan awyren ryfel yn y ffilmiau oedd mor boblogaidd yn y chwedegau, rhyw fath o Biggles Beiblaidd, lly. Mae angen bod yn wyliadwrus pa ddarluniau dan ni’n eu hysgogi ym meddyliau plant. Neu efallai mai jest fi oedd yn od fy nychymyg...
Ond rwy’n cofio fwy cywir un darlun a gyflwynodd y Parchedig E T Roberts, ficer Eglwys Iago Sant (Eglwys Gatholig Iago Sant a’n Harglwyddes erbyn hyn) ym Mangor ‘nôl yn fy mhlentyndod. Aeth â channwyll gydag ef i’r pulpud, a dangos i ni sut roedd y fflam, pa bynnag ffordd y byddech yn dal y gannwyll, ac er pob awel, yn y diwedd yn pwyntio at i fyny, tra byddai ei golau’n llewyrchu bob tro o’i chwmpas. Y pwynt a wnaeth oedd ein bod ninnau i fod fel canhwyllau yn y byd, gyda’n goleuni’n llewyrchu o’n cwmpas, ond nid yn y pen draw i dynnu sylw atom ni ein hunain, ond at Dduw – â’n fflam yn cyfeirio uchod bob tro. Dyna wers mor syml, ond gwers sy’n aros gyda mi hyd heddiw, lawn drigain mlynedd yn ddiweddarach.
Ymron dair canrif cyn hynny, ym 1681, cyhoeddwyd Cannwyll y Cymry, sef casgliad o gerddi o waith y Parchedig Rhys Prichard, Ficer Llanymddyfri, a fu farw ym 1644. Cerddi’n cyflwyno agweddau ar y ffydd Gristnogol mewn modd syml, darluniadol, oedden nhw ar gyfer y werin bobl – a cherddi a gafodd ddylanwad mawr ar Ddiwygiad Efengylaidd y ddeunawfed ganrif. Ac yn Llanymddyfri oeddwn innau ryw brynhawn Sul yn wythdegau’r ganrif ddiwethaf, yn digwydd cael te bach rhwng fy oedfaon mewn capeli lleol â hen wraig oedd yn sôn iddi fwynhau’n fawr bregeth yn un o’r ‘Cyrddau Mawr’ ymneilltuol ychydig cyn hynny. Pan ofynnais iddi beth oedd neges y pregethwr, ei hateb oedd ‘O, sôn i ddim yn deall dim beth wedodd e, ond roedd e’n ddwfwn iawn’!
O’m rhan fy hun, mwy gwerthfawr o lawer fyddai neges Ficer Eglwys Iago Sant a cherddi Ficer Llanymddyfri gynt na’r bregeth glywodd yr hen wraig honno heb ddeall dim, a dw i bob amser yn ceisio cadw gwersi cannwyll E T Roberts a Channwyll y Cymry mewn cof pan fyddaf yn pregethu fy hun hyd heddiw.
Dr Siôn Aled Owen