Munud i feddwl: Camgymeriadau
Camau gwag
Dw i wedi bod ag achos i feddwl llawer am gamgymeriadau a methiant yn ddiweddar, ac yn arbennig wedi bod yn meddwl am y berthynas rhwng y pethau hynny â phechod.
Mae’n hen wirionedd na all y sawl nad yw’n fodlon mentro wneud camgymeriad wneud dim, ac mae hanes yn llawn o achosion o bobl a oedd ag amcan da yn gwneud camgymeriad, ar adegau gyda chanlyniadau gwael iawn, weithiau i’r unigolyn ei hun, weithiau i eraill ac weithiau i drefn hanes ei hun. Yn y Beibl, gallwn feddwl am Joseff, a wnaeth gamgymeriad drwy rannu manylion breuddwydion a awgrymai ei oruchafiaeth, gan felly annog cenfigen ei frodyr a chanfod ei hun o’r herwydd yn gaethwas yn yr Aifft.
Ond beth sy’n cyfrif fel camgymeriad? Yn ôl safonau synnwyr cyffredin, byddai gwrthodiad Sadrach, Mesach ac Abednego i blygu i ddelw aur Nebuchadnesar yn gamgymeriad dybryd, ac eto dethlir hynny fel gweithred arwrol ac ymddygiad i’w efelychu. Yn ein dyddiau ni, camgymeriad mawr, o safbwynt ei ddiogelwch personol, oedd penderfyniad Alexei Navalny i wrthwynebu Vladimir Putin yn gyhoeddus, camgymeriad y talodd â’i einioes amdano. Ac eto, cyfrifir hynny gan lawer ledled y byd yn arwriaeth.
Fodd bynnag, gallwn ddeall safiadau o’r fath fel gweithredoedd bwriadol gan bobl a oedd yn fodlon wynebu canlyniadau alaethus eu dewrder, ond beth am gamgymeriadau anfwriadol, heb unrhyw ddiben arwrol, jest gwneud y peth ‘rong’, felly? Yn benodol, ydi gwneud camgymeriad yn bechod? Ydi methu yn bechod? Yn amlwg, dydyn nhw ddim o reidrwydd. Gallwn roi arian i gardotyn ac yna gallai ddefnyddio’r arian tuag at brynu cyffur sy’n ei ladd. Efallai y dylwn fod wedi ystyried y posibilrwydd hwnnw cyn rhoi’r arian, ond ydi hynny’n gwneud y weithred o roi ei hun yn bechod?
Yn y dref lle roeddwn yn byw yn fy arddegau, roedd yna deulu eithaf cefnog gyda dau fab, a’r rhieni’n dotio arnynt. Yn fuan ar ôl i’r mab hynaf lwyddo yn ei brawf gyrru, fe brynodd y tad gar pwerus iddo’n anrheg pen-blwydd, ond ar ei ddiwrnod cyntaf yn gyrru’r car, ceisiodd y mab brofi ei gyflymder i’r eithaf ar ffordd leol, colli rheolaeth a chael ei ladd yn y fan a’r lle. Ni phrofodd y tad fyth dawelwch meddwl ar ôl hynny. Oedd ei gamgymeriad yn bechod? A ddylai fod wedi rhagweld y gallai dyn ifanc fentro’i fywyd gyda char pwerus? Mae’n debyg bod y tad ei hun wedi ei arteithio gan gwestiynau tebyg weddill ei oes.
Yna rhaid gofyn y cwestiwn, a wnaeth Iesu gamgymeriadau? Nid oedd y ffaith iddo fyw’n ddibechod yn golygu ei fod yn ‘berffaith’ ym mhob ffordd arall – pe byddai hynny’n wir, ni allai fod yn gwbl ddynol. Mae’n debyg iawn iddo, wrth gynorthwyo yng ngweithdy’r saer, gam-lifio un darn a gwneud cawdel o gysylltu darnau eraill. Ond beth am gamgymeriadau mwy: ai camgymeriad oedd iddo ddewis Jwdas Iscariot yn ddisgybl, neu ymddiried yn Simon fel ‘y Graig’? Ydi’r ffaith bod y ddau, mewn ffyrdd gwahanol iawn, wedi bod yn ffigurau allweddol yn hanes yr Efengyl a’r Eglwys yn diddymu’r ‘camgymeriadau’ hynny? Ac onid y methiant eithaf oedd y Groes ar un golwg?
Wn i ddim yr atebion i’r cwestiynau hynny, ond mae meddwl am ystyr camgymryd a methu, a’u perthynas â’r cysyniad o bechod, yn ddiweddar, o leiaf wedi fy ngwneud yn llai beirniadol o gamgymeriadau a methiannau pobl eraill ac, fe obeithiaf, fy nghamgymeriadau a’m methiannau fy hunan hefyd.
Dr Siôn Aled Owen