Munud i feddwl: Dydd y Farn
Mae nifer o emynau Cymraeg yn cynnwys delweddau o’r byd yn llosgi: mae Pantcelyn yn rhagweld diwrnod ‘pan êl y byd ar dân’ ac mae cywydd enwog Goronwy Owen i’r Farn Fawr yn edrych tuag at ynys ei febyd ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw:
Pan fo Môn a’i thirionwch
o wres fflam yn eirias fflwch...
Darluniau sydd yma, wrth gwrs, o ddiwedd amser – Dydd y Farn yn yr ystyr eschatolegol. Ond dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld y ddaear ar dân, yn llythrennol, yn ein dyddiau ni – yng Ngogledd America, yn Awstralia, yng Ngwlad Groeg, yn Sbaen, yn Ffrainc ac, yn y dyddiau diwethaf, fe welwyd dinistrio cartrefi gan dân a gynheuodd wrth i Brydain gofnodi ei thymheredd uchaf erioed, ddiwrnod ar ôl cofnodi’r tymheredd uchaf erioed yng Nghymru.
Wrth gwrs, dydi tanau gwair a thanau mewn coedwigoedd ddim yn bethau newydd. Bûm yn byw yn Awstralia am dair blynedd yn ystod y nawdegau, a dysgais yno fel y mae planhigion ac anifeiliaid gwylltion wedi esblygu i ymdopi â thanau rheolaidd yn y coedwigoedd ewcalyptws – coed sy’n llosgi’n gyflym a chwyrn.
Un haf pan oeddwn yn byw yn ninas Melbourne, bu tanau difrifol ym mynyddoedd y Dandenong, ryw bum milltir ar hugain o’r ddinas, ac rwy’n cofio’r cymylau mwg yn cuddio’r haul a’r lludw’n disgyn ohonyn nhw o’n cwmpas fel eira du.
Dydyn ni ddim yn gweld llawer o eira gwyn yng Nghymru bellach – dim ond unwaith yn ystod y gaeaf diwethaf y gwelais eira ar y ddaear wrth fy nhraed, ac roedd hwnnw wedi mynd o fewn cwpwl o oriau. Roedd ffrind i mi fu’n rhedeg cylch meithrin yn yr wythdegau’n dweud fel yr oedd wedi rhoi rhai o’i hen lyfrau straeon plant o’r dyddiau hynny i rywun a oedd yn sefydlu cylch meithrin newydd. Roedd hithau’n falch ohonyn nhw, ond roedd yn chwerthin ynghylch un am wneud dyn eira – ‘Sgin blant heddiw ddim syniad am wneud dyn eira, cos dydyn nhw byth yn gweld digon o eira i wneud un!’ meddai.
Mae yna rywbeth mawr yn bod â’n byd heddiw, ym mhobman, yn ôl pob golwg – sychder a thanau yma, llifogydd draw, corwyntoedd a throwyntoedd erchyll mewn llefydd eraill. Dydy’r un o’r rhain yn newydd – ond mae pob un ohonynt yn digwydd yn amlach, ac yn arwach, oherwydd cynnydd yn nhymheredd y tir, y môr a’r awyr, a’r newid hinsawdd sydd o reidrwydd yn dilyn.
Roedd yr emynwyr a’r beirdd fel Pantycelyn a Goronwy yn cyfeirio at ddinistr a ddeuai o law Duw – a dinistr a fyddai’n rhagflaenu sefydlu nef newydd a daear newydd. Ond dinistr o’n gwneuthuriad ni ein hunain a welwn ninnau ar waith, yn gwbl amlwg, a hynny o flaen ein llygaid heddiw.
Fodd bynnag, y drwg ydi, heblaw pan fo’r argyfwng yn cyrraedd ein milltir sgwâr ni, fel ar 18 a 19 Gorffennaf eleni, ei bod yn rhy hawdd gadael i weithredu ar newid hinsawdd lithro i lawr yr agenda – nes daw’n fygythiad amlwg i ni’r tro nesaf, ac fe wna. Ond rhaid i ni wynebu’r ffaith bod peidio gweithredu ar y mater hwn yn gyfystyr â pharhau i bechu yn erbyn y greadigaeth – a phechod go arw yw’r un a all arwain at ddifodiant cymaint o rywogaethau, gan ein cynnwys ni ein hunain. Eisoes mae’n achosi dioddefaint a marwolaethau ar raddfa echrydus bob dydd, yn enwedig yn y gwledydd tlotaf.
‘Eiddo’r Arglwydd yw’r ddaear a’i llawnder, y byd a’r rhai sy’n byw ynddo’, medd y salmydd. Cawsom fenthyg y byd hwn i’w warchod a’i feithrin. Rydym yn haeddu pob barn os bradychwn yr alwedigaeth gysegredig honno.
Dr Siôn Aled Owen