Munud i feddwl: “Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin;
Yna gofynnodd Iesu i'w ddisgyblion, “Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; 38deisyfwch felly ar Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i'w gynhaeaf.” Matthew Chapter 9: verse 38
Yr wythnos hon byddwn yn mynd ar Genhadaeth I Abaty Margam, rydym ni wedi bod yn gweddio dros hyn ac yn ei gynllunio am gyfnod ochr yn ochr â gwaith y tymor a lleoliadau’r ymgeiswyr. Rydym ni’n fawr obeithio y byddwch yn ymweld â ni a gweld pa weithagreddau fydd yn cael eu cynnal.Gweddiwch drosom, a dros y Genhadaeth bydd yn digwydd o ddydd Mercher I ddydd Sul.
Yn ddiweddar deuthum ar draws adroddiad ysgol o pan oeddwn yn 8 blwydd a 4 mis oed. Un o’r prif deitlau oedd ‘adrodd story’, yr oeddwn yn ôl bob sôn yn rhagori! Mae nifer o bobl yn hoff iawn o adrodd stori ( nid bob amser yn rhai defnyddiol) , ond rhywsut rydym ni wedi colli’r ddawn i adrodd stori ein ffydd sydd yn hanfodol i’n bywydau ac i bob disgybl heddiw.
Gweddïwn ar gyfer y gras i wrando yn ddwfn ar straeon bobl a thros y cyfle i rannu ein storiâu o gariad a ffydd. Gweddïwn hefyd y gallwn gynnig lle ochr yn ochr â Chlerigwyr Abaty Margam, fydd yn ehangu lles y rheiny byddwn yn cwrdd â hwy a’n hunain.
Byddwn yn cynnig lletygarwch- coffi (go iawn) a chacennau ac mi fydd hefyd digwyddiad Pimms a Hymns! Bydd yna weithgareddau i blant a theithiau cerdded Gweddi ar hyd llwybrau cerdded y Pererinion ym Mharc Margam. Bydd yn orsafoedd gweddïo yn yr Abaty â rhai sesiynau gweddi canoli. Mae’r rhain i gyd yn wych, ond yn ddibynnol iawn ar sut eu cyflwynir a sut y derbynnir hwy, gweddïwch fod yr Ysbryd Glân yn ein hysbrydoli a’n cynorthwyo a’n tasg.
Rhaid i’n perthynas â Duw a’n dymuniad i wasanaethu eraill fod wrth wraidd Cenhadaeth, ac mae rhaid bod bwriad i fynd allan a datgan newydd da Iesu. Yn y cyfnod yma rhwng Dyrchafael a’r Pentecost mae nifer yn ufuddhau i ‘deled dy deyrnas’
‘Deled dy deyrnas(‘Thy Kingdom come’ (symudiad gweddi eciwmenaidd fyd-eang sy’n gwahodd Cristnogion ar draws y byd i weddïo dros fwy o bobl i adnabod Iesu) Os hoffwch ymuno â ni drwy weddïo'r wythnos hon dyma’r linc i’r Gweddïau Cymraeg:
Gweddiau Cymraeg/Welsh Prayers
Ein Tad yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw;
deled dy deyrnas;
gwneler dy ewyllys,
ar y ddaear fel yn y nef.
Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol,
a maddau inni ein troseddau,
fel yr ym ni wedi maddau i’r rhai a droseddodd
yn ein herbyn;
a phaid â’n dwyn i brawf,
ond gwared ni rhag yr Un drwg.
Oherwydd eiddo ti yw’r deyrnas a’r gallu a’r gogoniant am byth.
Amen
Parch Ganon Richard Lowndes