Munud i feddwl: Y Sêr yn eu Graddau
Y Sêr yn eu Graddau
Wn i ddim faint ohonoch chi a wyliodd y ffilm a ddangoswyd ar Netflix rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, Don’t Look Up. Comedi yw’r ffilm i fod, ond mae’r ‘jôc’ sy’n sylfaen iddi’n un dywyll iawn. Mae’r stori’n dechrau pan mae gwyddonydd ifanc yn America sy’n astudio am ei doethuriaeth mewn seryddiaeth yn darganfod comed newydd. Pluen yn het unrhyw wyddonydd ar ddechrau gyrfa, wrth gwrs, ond mae ei llawenydd yn troi’n arswyd pan mae hithau a’i goruchwyliwr yn sylweddoli bod llwybr y gomed yn golygu y bydd yn taro’r ddaear ac yn rhoi diwedd ar y ddynoliaeth. Maent yn cyfleu’r newyddion erchyll i’r Arlywydd – Meryl Streep sy’n actio honno, gyda chryn dipyn o Trump o’i chwmpas – ond digon llugoer yw’r ymateb. Maent hefyd yn mynd â’r newyddion i’r cyfryngau, ond yn rhyfeddu mai cymysg yw’r ymateb yno hefyd.
Yn y diwedd, mae NASA’n trefnu cyrch i danio taflegryn niwclear i daro’r gomed o’i llwybr ac achub y ddaear, ond fe roi’r y gorau i’r ymdrech honno ar y funud olaf oherwydd bod cyfalafwyr dylanwadol wedi sylweddoli bod y gomed yn cynnwys miliynau o dunelli o fwynau drudfawr ac maen nhw am geisio canfod ffordd o gael gafael ar y rheini cyn gadael i’r gomed ddianc.
Yn y cyfamser mae poblogaeth y byd wedi ymrannu fwy neu lai yn dair carfan: y rhai sy’n derbyn y ffeithiau ac am weld gweithredu ar frys i achub y ddaear, y rhai sy’n credu bod comed, ond nad yw hi wir am daro’r ddaear, a charfan arall sy’n gwadu bodolaeth y gomed yn llwyr. A phan mae’r Athro Seryddiaeth yn edrych i fyny ryw noson ac yn gweld y gomed â’i lygaid noeth am y tro cyntaf, ac yn annog yr anghredinwyr ‘Just look up!’, mae ymgyrch ‘Don’t Look Up!’ yn cychwyn...
Os ydych chi am wybod beth sy’n digwydd wedyn, gwyliwch y ffilm – dw i wedi adrodd digon o ‘sboilars’ yn barod, dw i’n meddwl! Ond neges y ffilm yw bod pobl yn gallu gwadu’r hyn sy’n digwydd yn eglur o flaen eu llygaid, hyd yn oed os eu diwedd nhw eu hunain fydd canlyniad anochel anwybyddu’r ffeithiau hynny. Mae wedi’i anelu’n arbennig at y rhai sy’n gwadu gwirionedd newid hinsawdd, ond mae ymateb cwbl afresymegol cymaint o bobl i’r Pandemig presennol yn dod i’r meddwl hefyd.
Ond ychydig ddyddiau ar ôl gwylio’r ffilm, mi sylwais am y tro cyntaf, yn un o wasanaethau boreol Athrofa Padarn Sant, oedd ar Zoom bryd hynny, ar adnod 4 yn Salm 147, sy’n cyhoeddi bod Duw ‘yn pennu nifer y sêr, ac yn rhoi enwau arnynt i gyd’. Beth mae hynny’n ei ddweud wrtha i yn sgil neges Don’t Look Up? Mae’n cyhoeddi, yn y lle cyntaf, beth bynnag sy’n annealladwy, neu sy’n ymddangos yn fygythiol i ni yn y bydysawd yma, pa bynnag lanast a wnawn ni ar ein sbecyn bach glas ni ynddo, bod Creawdwr a Chynhaliwr sy’n adnabod pob un darn o’r greadigaeth ac yn trefnu’r cyfan.
Yn anffodus, mae sylweddoli hynny, ac roedd awgrym o hyn hefyd yn y ffilm, yn arwain rhai i ddadlau nad oes raid i ni boeni am newid hinsawdd, am bandemigau, am anghyfiawnder, am dlodi, achos daw popeth yn iawn yn y diwedd, i’r ‘ffyddloniaid’ o leiaf. Ond i mi, mae’n cyhoeddi’n hytrach: os ydym yn credu mewn Duw mor rhyfeddol a greodd fydysawd mor rhyfeddol, cymaint mwy felly yw’n cyfrifoldeb ni i warchod a stiwardio’n cornel ni ohono – ei phobl, ei hanifeiliaid a’i hamgylchedd.
Y noson glir nesaf, ewch allan i’r ardal dywyll agosaf. Ac edrychwch i fyny.
Dr Siôn Aled Owen