Munud i feddwl: Pwy oedd Celynnin?
Pwy oedd Celynin?
Dros y deunaw mis nesaf byddaf yn un o’r beirdd fydd yn cyfrannu at brosiect cyffrous o dan nawdd Esgobaeth Bangor, sef Pererindod Lenyddol Llwybr Cadfan Sant. Byddwn yn dilyn llwybr o Dywyn, Meirionnydd, lle glaniodd Cadfan a’i ddilynwyr o Lydaw yn y chweched ganrif, hyd at Ynys Enlli, lle daeth, yn ei henaint, yn Abad cyntaf. Bydd digwyddiadau mewn nifer o fannau ar y ffordd a byddaf finnau, a Sian Northey, y bardd arall fydd yn cyfrannu at yr holl daith, yn cyfansoddi cerddi ar gyfer pob safle. Bydd yr holl safleoedd yn gysylltiedig â hanes Cristnogol yr ardal, a llawer ohonyn nhw’n dwyn i gof un o’r hen seintiau Celtaidd.
Ar yr un pryd, mae fy nghydweithiwr yn yr Athrofa, Chris, ynghyd â Chymuned Arloesol yr Eglwys yng Nghymru, yn canfod ysbrydoliaeth ym nhystiolaeth yr un seintiau hynny. Mewn sgwrs â Chris, roeddem yn ystyried faint oedden ni’n ei wybod am y bobl yma, megis Illtud, Garmon, Eurgain, Ffinan a Gwenllwyfo, a’r gwir yw ein bod yn gwybod llawer, mewn chwedlau o leiaf, am seintiau megis Illtud, Dwynwen a Dewi ei hun, wrth gwrs. Ond am eraill...
Yr arhosfan cyntaf ar ein pererindod ar ôl gadael Tywyn yw Llangelynin, Eglwys Celynin Sant, adeilad bach hynafol yn llechu rhwng mynydd a môr mewn llecyn tawel gyda hanner dwsin o anheddau’n gwmni. A phwy oedd Celynin? Credir iddo fod yn un o ddeuddeg o feibion Helig ap Glanog, a gollodd ei dir, rhwng y Gogarth ac Ynys Môn, i’r môr. Gyda chyfoeth y teulu wedi diflannu dan y tonnau, aeth nifer o’r brodyr yn fynachod i abaty Bangor-is-y-coed ac i Gelynin yntau ddod yn genhadwr a chyffeswr. Mae un eglwys arall wedi ei chysegru iddo yn Nyffryn Conwy. A dyna ni.
Mae’n hawdd dysgu gwersi o rai o’r straeon am y saint enwocaf, ond beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth fywydau ymron yn anhysbys pobl fel Celynin – y mwyafrif, yn wir, o’r saint a goffeir yn llannau Cymru?
Gan amlaf, fe ddarlunir yr hen saint Celtaidd mewn ffenestri lliw o Oes Fictoria mewn gwisgoedd Esgobol Canoloesol, neu Fictoraidd hyd yn oed, sydd ymhell o fod yn adlewyrchu’r bucheddau syml a chaled a brofodd llawer ohonynt – mae yna ymdrech i’w gwneud nhw ‘fel ni’, wel, y ‘ni’ a gynrychiolai’r sawl a gomisiynodd y ffenestri ar y pryd. Roedd y saint yn gorfod bod yn ‘rhywun’.
Ond mae’r saint ‘anhysbys’, megis Celynin ac eraill y gwyddom lai fyth amdanynt, yn herio hynny. Dyma bobl na wnaethant, yn ôl pob golwg, gyrraedd safle uchel yn yr Eglwys, na fu’n ddigon o ‘celebs’ ysbrydol i haeddu cofnodi eu gwyrthiau, na wnaethant fwy o farc ar hanes na chael cysylltu eu henwau ag un neu ddwy o eglwysi bach. Ond fe’u cofir gan Dduw, ac fe gysegrasant eu bywydau iddo, waeth pa mor ddisylw fuont yng ngolwg y byd.
Mae’r Beibl yn sôn llawer am ‘saint’ felly. Yn wir, dyna’r term a ddefnyddir ar gyfer pawb o’r credinwyr yn yr Eglwys Fore. Felly mae gwŷr a gwragedd megis Celynin a Gwenllwyfo wir ‘fel ni’, a gallwn ninnau fod ‘fel nhw’ ond o ddilyn yr un llwybr o ffyddlondeb i Grist a’i efengyl.
Felly’r tro nesaf y byddwch yn ymweld ag eglwys sydd wedi ei chysegru i sant y mae ei enw neu ei henw’n ddieithr i chi ceisiwch, yn wir, ddarganfod cymaint ag y gallwch amdanyn nhw. Ac os nad oes llawer i’w ganfod, diolchwch am un arall o weision anhysbys Duw a droediodd lwybr ffydd o’ch blaen. A gwnewch chwithau’r un modd.
Gweler mwy am y brosiect fan hyn
Dr Siôn Aled Owen