Mannau Gweddïo
Mae'r drydedd Stori Newyddion Da yn edrych ar fenter gyffrous yn Llanelwy
Mae Jonathan Andrews yn trafod ei brofiad o Fannau Gweddïo a sut y gallant ddigwydd yn unrhyw le. Hyd yn oed mewn maes parcio ysgol.
Yn 2017, cynorthwyais mewn diwrnod mannau gweddïo mewn ysgol yn Llandaf. Roedd y profiad yn amhrisiadwy i mi a doeddwn i erioed wedi gweld gweddïo rhyngweithiol yn cael effaith mor gadarnhaol ar bobl ifanc. Ers hynny rwyf wedi dod i deimlo'n angerddol iawn am weddïo rhyngweithiol ac wedi dechrau datblygu fy ngorsafoedd gweddïo creadigol fy hun. Rwyf wedi darganfod eu bod yn offeryn defnyddiol iawn i helpu pobl ifanc ac oedolion i gysylltu â Duw. Ers dechrau gweithio fel caplan bobl ifanc a phlant i'r Eglwys yng Nghymru, rhywbeth rydw i wedi bod eisiau ei wneud yw sefydlu diwrnodau gofod gweddïo yn yr ysgolion lleol. Mae'r staff wedi bod yn awyddus iawn i hyn ddigwydd ond mae lle yn brin ac felly mae hynny wedi cyfyngu ar faint y gellir ei gyflawni. Yna cefais clywais am brosiect bws Eden sy'n adnodd gwych ar gyfer amgylcheddau trefol, ond byddai cyfyngiadau i hynny mewn pentrefi gwledig llai. Teimlais fod Duw wedi rhoi yn fy nghalon y syniad o fan weddïo ryngweithiol a all ymweld ag ysgolion gwledig gan greu lle diogel i blant ddod i gysylltiad â Duw. Adnod arwyddocaol o'r Beibl oedd Eseia pennod 54 adnod 2 “Helaetha faint dy babell, estyn allan lenni dy drigfannau; gollwng y rhaffau allan i'r pen, a sicrhau'r hoelion.” Teimlais fod Duw yn dweud os nad oes lle yn yr ysgolion i gynnal diwrnod gweddïo, dylid ei gynnal ar yr iard.
Mae cannoedd o blant eisoes wedi cael profiad o'r fan weddïo yn eu hysgolion cynradd. Caiff gweithgareddau crefftau, profiadau synhwyraidd a thrafodaeth eu cyfuno i alluogi plant i ddod i gysylltiad â Duw wrth iddynt ryngweithio â'r gwahanol fannau gweddïo. Mae'r adborth bob amser yn gadarnhaol gan y plant a'r staff, sydd oll yn gwneud sylwadau ar ansawdd y cynnyrch. Mae fy hoff stori'n ymwneud â phlentyn ag anhwylder sbectrwm awtistig a ddaeth i mewn i'r fan gyda'i chynorthwyydd dysgu personol (a oedd yn amheus iawn ynghylch a ddylai gymryd rhan), ond ei hadborth wedi hynny oedd nad oedd hi erioed wedi gweld y plentyn mor ddigynnwrf.