Sul y Coffa – Cyfle Euraidd
Rydym yn parhau â’r gyfres o straeon Newyddion Da drwy edrych ar wasanaeth bydd yn cael ei ail-greu ar draws y genedl.
Mae’n Dachwedd y 10fed ac mae 150 o bobl yn llenwi Eglwys Sant Paul, Pont-y-clun. Dyma ei gwasanaeth coffa blynyddol.
Bydd y gwasanaeth wedi ei chwtogi oherwydd yr angen i wneud hynny, ond mae lle ar gyfer gweddïau, addoliad drwy ganu, pregeth a’r Ewcharist.
Mae yna lawer o bobl yn bresennol and sydd yn mynychu yn arferol ar y Sul, ond maen nhw wedi arfer a phatrwm addoliad ac mae rhan fwyaf yn derbyn y cymun, gan gynnwys nifer o’r sefydliadau mewn lifrau milwrol sydd yn bresennol. Y prif reswm dros wylio’r cloc yw’r angen i fod wrth y senotaff mewn da bryd ar gyfer rhan nesaf y gwasanaeth i’w gynnal yn yr awyr agored.
Am 10.30am mae’r bererindod o’r Eglwys yn dechrau. Yn sicr, mae rhai yn aros yn yr eglwys i weddïo yn breifat, ond mae’r gweddill yn ymuno â’r orymdaith ar hyd y stryd fawr. Mae’r heddlu wedi cau’r heol i foduron am yr awr nesaf. Mae’r niferoedd yn cynyddu wrth i 100 o bobl arall pan mae aelodau’r eglwys Bedyddwyr yn ymuno’r orymdaith. Mae eraill wedi ymgynnull ger y senotaff gan gynnwys swyddogion yr heddlu a chyn-filwyr wedi ymddeol. Byddan nhw yn cymryd rhan yn rhan nesaf o’r gwasanaeth. Mae hwn yn dref fach (oddeutu 8000) ac mae yna tua 400 o bobl yn ymgynnull wrth y senotaff. Mae emyn arall yn cael ei ganu ac mae gweinidog y Bedyddwyr yn arwain y gweddïau. Mae ei weddïau fod i orffen 30 eiliad cyn 11.00am ond ame’n gorffen yn gynt ac fe ofynnir i weddio fwy! Mae’n bosib y tro cyntaf i swyddogion y dref i holi i’r eglwys weddio mwy! Am 11.00am mae’r Ddefod Coffa yn dechrau. Mae 400 o bobl yn gostwng eu pennau yn yr awyr agored i fyfyrio.
Mae yna nifer o elfennau arall i’r gwasanaeth ac yn y diwedd bydd diodydd yn cael eu gweini ac yna bydd pawb yn troi at adre. Ond mae’n wasanaeth sy’n cael ei hail greu ger senotaffiaid neu mewn eglwysi ar draws yr Eglwys yng Nghymru. Mae cyswllt yn cael ei greu gydag unigolion allweddol yn y gymuned, mae miloedd ar filoedd o bobl yn ymgynnull, ac mae’r eglwys yn arwain y gymuned mewn addoliad, sydd yn bwysig yn hanesyddol ac yn ysbrydol. Oherwydd ei fod yn ddigwyddiad blynyddol, rydym yn anghofio'r gwahaniaeth rydym yn gwneud a’r impact rydym yn ei gael.