Wythnos o Addoli Rhyngwladol
Ar 13-15 Ionawr, fe benderfynodd Grŵp Addoli ein cymuned llawn amser i weithio â thema'r Cymundeb Anglicanaidd ar gyfer ein haddoli ar y cyd. Mae’n hawdd anghofio bod Anglicaniaid yn rhan o rywbeth fwy na’r Eglwys yng Nghymru yn unig, ac roeddem eisiau cynyddu ein hymwybyddiaeth o’n brodyr a chwiorydd Anglicanaidd ar draws y byd, yn ogystal â dathlu'r amrywiaeth o ddiwylliannau a lleisiau sydd yn rhan o Deyrnas Duw.
Ein nod oedd osgoi twristiaeth addoli a rhaniadau. Roeddem eisiau agor drws o ddealltwriaeth byddai’n ein galluogi i deimlo'n fwy cysylltiedig gyda’n cymdogion ysbrydol, gyda Duw a gyda ni ein hunain. Roedd yn bwysig i ni ddewis gwledydd y roeddem a chysylltiadau real gyda hwy fel bod ein addoli â nodwedd ddilys o’r lle, fel bod modd i ni yn ein cartrefi i gysylltu drwy gyfrwng Zoom.
Fe benderfynom ffocysu ar Seland Newydd, Tanzania a De’r India a gan mai ein ffocws oedd cymun, fe ddewision ni rhywbeth oedd yn berthnasol ac wedi ei ffocysu ar bobl.
Emma- Seland Newydd
Mae gen i deulu yn Seland Newydd ac roeddwn yn teimlo fy mod eisiau dod ag ychydig o’i diwylliant Maori i’n plith, fel modd o addoli Duw, ac i gynyddu dealltwriaeth o’i diwylliant er mwyn meithrin ymdeimlad o gymundeb. Roedd y gwasanaeth yn amlieithyddol; Saesneg, Maori a Samoa. Fe wnes i’n siŵr y bod unrhyw beth mewn iaith wahanol yn hawdd mynd ato a bod pawb yn medru cymryd rhan- nail ai drwy gyfarwyddeb neu drwy gyfieithiadau.
Roeddem hefyd wedi dod o hyd i fideo am ddiwrnod mewn bywyd ficer yn Seland Newydd I gynnwys ar TikTok. Roedd yn hwyl i weld beth oedd yn gyfarwydd â beth oedd yn wahanol ( gan gynnwys carolau yn cael eu canu yn yr haf!)
Rhan o’i hysbrydoldeb yw deall y cariad sy’n mynd ymaith a’r cariad sy’n dod yn ôl a sut mae hynny’n meithrin cymuned ac annibyniaeth. Fe ddarllenais fyfyrdod a ysgrifennwyd gan Archesgob David Moxon a elwir yn The Woven Flax Cross sy’n trafod y syniad yma mewn cyd-destun.
Er mwyn ceisio dangos y cysyniad ar waith fe wrandawom yn weddigar i The Blessing New Zealand ac yn dilyn cael ein bendithio fe ddangoson ni ein cariad drwy weddïo’r geiriau yn ôl dros bobl Seland Newydd. Daeth y gwasanaeth i ben gyda Stan Walker yn canu Ma Te Marie yn iaith Maori oedd yn golygu bod ein cariad yn cael ei ddychwelyd atom, yn hyrwyddo cylchred o gydofal a chyd-fendith.
Grace- Tanzania
Fe benderfynais i ddathlu diwylliant a phobl Tanzania. Mae De’r Affrig yn rhanbarth sydd yn arwyddocaol yn ysbrydol imi, yn ogystal â bod yn agos at fy nghalon a fy mywyd gweddi. Roedd agor y drws cariad ac i gynnwys y gymuned lawn-amser yn gymaint o bleser ac fe roddodd bersbectif hollol newydd ar anferthedd y Cymun Anglicanaidd. Cyfeirir ato’n aml yng nghyd-destun cymorth, argyfwng amgylcheddol a thlodi byd-eang, roeddwn eisiau herio ein canfyddiadau traddodiadol o’r Eglwys Affricanaidd drwy ddathlu sain nifer o leisiau yn codi gyda’i gilydd i Dduw mewn gweddi.
Roedd fy nghyfnod yn Nhanzania wedi’i nodi ac ymdeimlad o gymuned, rhannu a llawenydd yn gorlifo- roedd y tair nodwedd yma yn llunio sut roeddwn yn hwyluso'r addoli, gan obeithio wrth i ni ddod at ein gilydd y byddai llygedyn o galon Duw yn cyffwrdd ac ysbrydoli eraill. Wedi fy ngoleuo gan ddarnau o Lyfr Datguddiad 21 a Datguddiad 7, cafodd ein gweddïau eu dylanwadu gan aml-amrywiaeth a phrydferthwch o fewn y ‘nifer fawr o genhedloedd’ yn Nheyrnas Duw. Roeddwn yn medru gweddïo ar gyfer anghenion y wlad yn genedlaethol ochr yn ochr â’r eglwys leol a chymunedau o fewn rhanbarth Mara, diolch i fy ffrind agos Amos wnaeth siarad ar ran ei wlad a’i bobl. Roedd ei ddarn i’r camera yn werthfawr ac fe ychwanegodd ddilysrwydd i’r profiad o rannu eu bywyd. I mi'r foment fwyaf ingol o’r gwasanaeth oedd clywed fod Amos a’i gymuned yn neilltuo amser i weddïo drosom. Roedd hyn nid yn unig yn ddiymhongar ond hefyd yn arddangos llawnder a “shalom” o beth mae’n golygu i fod yn blant I Dduw ac yn rhan o deulu Duw. Mewn ysbryd dathlu, fe ddaeth yr addoli i ben gyda Gweddi’r Arglwydd yn cael ei ganu yn Swahili “Baba Yetu” a’i berfformio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar gyfer perfformiad “Galw ar Genhedloedd) Roedd yn cynnwys Cerddorfa’r Opera Gymraeg Cenedlaethol, Celebration Chorus and Kwa-Zulu Natal Youth Choir ac roedd wir yn gipolwg o orfoledd nefol.
Sarah - De'r India
Fe syrthiais i mewn cariad gyda’r India deng mlynedd yn ôl ar fy nhaith gyntaf o ddwy daith genhadol fyr. Rwy wedi dychwelyd ddwywaith ers hynny ac mae gennyf gysylltiad cryf gyda Thomas Mercy a’r teulu, a ymunodd gyda ni ar fideo. Mae litwrgi Eglwys Dde India yn adlewyrchu’r ffaith bod yr Eglwys wedi ei chreu yn dilyn annibyniaeth India yn 1947, gan ymuno Anglicaniaid, Methodistiaid, Bedyddwyr a Phresbyteriaid. Tra bod ganddo strwythur Anglicanaidd, mae’r geiriau yn adlais o wahanol enwadau a diwylliant India hefyd.
Fe rannom yr Heddwch gydag arwydd o Namaskara.Darlennodd Mercy o 2 Croniclau 7: 14-15, sy’n alwad i weddi ac edifeirwch. Fe weddïodd Thomas weddi deimladwy yn llawn cymeradwyaeth a diolch I Dduw, a chariad a thosturi am ei wlad a’i bobl. Gwnaeth Mercy a’r plant weddïo gweddi’r arglwydd yn iaith frodorol. Fe weddïon nhw gan ailadrodd llinell wrth linell, fel yn eu heglwys wledig gan nad oes ganddyn nhw lyfrau gweddi na thechnoleg. Gwnaeth y fideo diweddglo o’r Fendith a Christnogion o draws India at ei gilydd yn canu yn eu hiaith ei hun.
Roedd ein hwythnos o addoli yn lliwgar, bywiog creadigol ac fe ddaeth ac elfennau newydd i’r profiad o addoli gan chwarae gydag iaith, sain, ffurf gweddi a ffiniau diwylliannol. Roedd yn anrhydedd i weddïo gyda’n cymdogion byd-eang, gan godi anghenion y byd I Dduw ond hefyd ehangu ein gorwelion ein hunain. Drwy gael gymaint o amrywiaeth yn y gwledydd a ddewiswyd a hefyd ffurf yr arweiniwyd fe roddodd i bob un ohonom gipolwg o’r gweinidogaethau a galwad gwahanol sydd o fewn ein galwedigaethau ein hunain, a wnaeth eto adlewyrchu'r amrywiaeth a geir yn y gymuned llawn amser. Roedd yn gyffrous a newydd i adael i’n rhoddion I Dduw I gymryd lle ar y cyd gydag alaw eraill ar draws y Gymundeb. Tra bod addoli ar Zoom wedi bod yn heriol mewn rhai ffyrdd, fe wnaeth y profiad hwn amlygu’r anrhydedd o allu cysylltu, gweddïo ac addoli Iesu mewn modd pell gyrhaeddol a dirwystr drwy gyfrwng ar-lein. Roedd clywed ieithoedd newydd, gweld wynebau newydd a galluogi’r Ysbryd Glân i’n harwain ni i wahanol le i weddïo yn foment ysgogol a grymus.