Beth sy'n bosibl gyda Duw - Eglwys Sant Thomas, Abertawe
Yn y drydedd stori byddwn yn edrych ar yr hyn sy'n bosibl gyda chymorth Duw.
Mae eglwys Sant Thomas wedi'i lleoli yn un o ardaloedd tlotaf Abertawe. Ond yn seiliedig ar weledigaeth gref i drawsnewid y gymuned, mae'r Cyngor Plwyf Eglwysig wedi codi dros £1.1 miliwn o bunnoedd i drawsnewid ei adeilad, cyflogi staff newydd ac estyn allan i'r gymuned a'r ardal ehangach. Mae Steve Bunting, y ficer, yn egluro sut y daeth yr eglwys adnoddau hon i fodolaeth.
Dechreuodd gydag arolygiad pum mlynedd yn 2014. Roedd yn amlwg o hynny bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth gyda’r adeilad. Roedd naill ai gwerth 20 mlynedd o ddatrysiadau tameidiog ar gyfer adeilad a oedd ar agor am awr yr wythnos neu roedd angen ymateb mwy radical arnom. Ac felly dyna ddechrau'r daith i feddwl o'r newydd am eglwys Sant Thomas. Yn 2016 fe wnaethom wahodd y penseiri o’r Ymddiriedolaeth Adnoddau Eglwysig i’n helpu i ystyried beth oedd yn bosibl. Roedd gennym weledigaeth fawr ar gyfer yr adeilad, yn cynnwys man addoli a chanolfan gymunedol. Fodd bynnag, roedd gan y pensaer weledigaeth lawer mwy ac fe'n heriodd i feddwl a allai'r eglwys dyfu'n sylweddol o ran ei niferoedd.
I ni, nid oedd hyn yn ymwneud â chael adeilad braf, roeddem bob amser wedi canolbwyntio ar ein cymuned ac roedd hyn yn gyfle i ymgysylltu ymhellach â'r gymuned honno. Roeddem eisoes yn cynnal grwpiau ieuenctid, sesiynau babanod, banc bwyd a lloches nos. Ond dim ond am awr yr wythnos yr oedd ein hadeilad mwyaf ar agor.
Lluniwyd tri chynllun. Y cynllun gwreiddiol o ofod addoli a chanolfan gymunedol oedd un ohonynt, ac roedd yr ail a'r trydydd cynllun yn cynnwys creu ail lawr er mwyn cadw man addoli o faint llawn. Penderfynodd y Cyngor Plwyf Eglwysig yn unfrydol ar yr opsiwn mwyaf radical oherwydd ei fod yn credu mai dyma fyddai'n cael yr effaith fwyaf hirdymor ar y gymuned.
Felly dechreuodd y gwaith allanol yn 2018 i greu'r adeiladwaith a dechreuodd y gwaith mewnol ym mis Tachwedd 2019. Y cynllun yw ailagor yr adeilad gyda man addoli maint llawn ar y llawr cyntaf lle y bydd digon o le i ychydig dros 300 o bobl, gyda'r lifftiau angenrheidiol wrth gwrs i sicrhau ei fod yn hygyrch. Ar y llawr gwaelod bydd lle ar gyfer sesiynau babanod, lloches nos, banc bwyd, cegin hyfforddi (i ddysgu pobl sut i goginio), caffi gydag opsiynau arlwyo masnachol a hefyd y gallu i goginio prydau yn ystod gwyliau ysgol, sinema gymunedol. Bydd hefyd yn gweithredu fel canolfan ar gyfer rhaglen fentora TLG, yn ogystal â swyddfeydd ar gyfer ein tîm sydd wedi'i ehangu rhywfaint, a bydd ystafelloedd cyfarfod a chyfle i gynnal cynadleddau a derbyniadau priodas.
Y freuddwyd yw y bydd eglwys Sant Thomas Abertawe ar ei newydd wedd yn gweithredu fel eglwys adnoddau lle y gellir sefydlu ystod o ddigwyddiadau hyfforddi, rhaglenni disgyblaeth a chynlluniau mentora i fendithio ardal Abertawe a thu hwnt. Mae'r eglwys wedi'i lleoli yn un o ardaloedd tlotaf Abertawe, ond serch hynny, mae wedi llwyddo i godi'r £1.1 miliwn sydd ei angen i wireddu'r freuddwyd hon. Mae'r ail-lansiad wedi'i drefnu ar gyfer Medi 2020.