Gweinidogaethau Comisiyniedig
Mae’r llyfrynnau yma yn rhan o gyfres GWEINIDOGAETH Athrofa Padarn Sant ac maen nhw wedi eu cynllunio i gynorthwyo y rhai hynny hoffai fod ynghlwm fwy gyda Arwain Addoliad neu Cynorthwyp Bugeiliol. Mae diwedd bob llyfr yn cynnwys templed sylfaenol ar gyfer y rheiny sydd yn mynd I gael eu comisiynu yn Gynorthwy-wyr Bugeiliol.
Ymweliadau Bugeiliol
Mae traddodiad cryf o ymweldiadau bugeiliol o fewn yr Eglwys Anglicanaidd, fel ym mhob enwad yng Nghymru. Ysgrifenna’r hanesydd Roger Lloyd,
Eglwys fugeiliol yw’r Eglwys Anglicanaidd yn ei holl hanfod. Ni ellir dweud hyn yn rhy aml, oherwydd ni fydd neb sy’n anwybyddu’r ffaith sylfaenol hon fyth yn gallu deall Anglicaniaeth. Hyd heddiw, y bugeiliaid mawr yw’r arwyr hoff o’r naill genhedlaeth i’r llall... Y rhai [gweinidogion] sy’n cael eu caru fwyaf yw’r rhai sy’n adnabod eu defaid a’r rhai y bydd eu defaid yn eu hadnabod hwythau.
Mae ymweliadau bugeiliol wastad wedi bod yn rhan hollbwysig o waith offeiriad neu weinidog, ac mae hynny’n wir hyd heddiw. Serch hynny, mae ad-drefnu bugeiliol wedi creu cyfleoedd i holl aelodau’r eglwys gyfrannu mwy at ymweliadau bugeiliol. O fewn yr Eglwys yng Nghymru, mae’r broses o greu Ardaloedd Gweinidogaeth/Cenhadaeth hefyd wedi rhoi hwb arbennig i hynny. Mae perthynas uniongyrchol rhwng hyn â chynnydd graddol yn natblygiad y weinidogaeth leyg, cydnabyddiaeth o natur gydweithredol yr eglwys, ac ymrwymiad cynyddol i’r cysyniad o ‘weinidogaeth yr holl Gristnogion a fedyddiwyd’. Mae hyn yn wir am bob enwad.
Mae’r llyfryn hwn wedi’i seilio ar yr egwyddor Gristnogol fod Duw yn caru pawb ac yn rhoi gwerth ar bawb. Ei nod yw i rhoi dealltwriaeth sylfaenol o’r hyn sydd ynghlwm â ymweliadau bugeiliol. Bydd yn gymorth i ddeall sut i fod yn wrandäwr da, sut i ymdrin â sgyrsiau bugeiliol a sut i ymdrin a elfennau ymarferol ymweliadau.
Gyda diolch mawr i'r Parch Ddr Jeremy Huslein am greu cyfres o seisynau i gyd-fynd â'r llyfr Ymweliadau Bugeiliol:
Pastoral Assistant Course Session 1 - What is Pastoral Care?
Pastoral Assistant Course Session 2 - Being a Good Listener
Pastoral Assistant Course Session 3 - Managing a Pastoral Conversation
Pastoral Assistant Course - Session 4- What Might We Encounter
Pastoral Assistant Course Session 5 - Undertaking a Visit
Pastoral Assistant Course Session 6 - Reflecting on Experience
Arwain Addoliad
Yn Saesneg, mae’r gair ‘worship’ yn tarddu o’r Sacsoneg, a ‘rhoi gwerth’ ar rywbeth yw’r ystyr. Mae addoli Duw felly yn golygu rhoi’r gwerth iddo y mae’n ei haeddu. A byddwn ni’n rhoi’r gwerth hwnnw iddo drwy gynnig i Dduw bopeth ydym ni a phopeth sydd gennym ni. Mae hynny wedi’i ddisgrifio’n draddodiadol yn Llyfr Gweddi Cyffredin 1662 fel ein dyledus ddyletswydd a’n dyledus wasanaeth.
Nid yw addoli’n weithgarwch cynulleidfaol yn unig. Yn Natguddiad Ioan, rydym yn gweld gweledigaeth o addoli yn y nefoedd lle y mae pob creadur yn y nefoedd ac ar y ddaear, ac o dan y ddaear ac yn y môr, i gyd yn addoli’r Duw byw drwy ganu:
I’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd ac i’r Oen y bo’r mawl a’r anrhydedd a’r gogoniant a’r nerth byth bythoedd! (Datguddiad 5: 13)
Yn yr Eglwys yng Nghymru heddiw, fe welwch fod addoli’n cael ei fynegi mewn toreth o ffyrdd ardderchog. Does ond angen i chi fynd ar daith fer iawn o amgylch y genedl ac fe ddewch chi ar draws eglwysi lle mae’r gynulleidfa’n cael ei harwain gan gitarydd a grŵp cerddoriaeth gyfoes, sy’n dechrau eu gwasanaethau gyda 20-30 munud o addoli ar gân, eglwysi lle mae’r gwasanaeth yn dechrau gydag 20-30 munud o addoli ar gân, eglwysi lle mae’r gynulleidfa’n canu emynau unigol rhwng y litwrgi mwy ffurfiol, eglwysi lle mae’r gynulleidfa’n mwynhau ‘gwasanaeth llafar’ gyda Chymun ond heb gerddorion nac elfen o addoli ar gân i’r gwasanaeth, ac eglwysi lle mae gan y gynulleidfa draddodiad corawl cryf a chorau mewn gwisg sydd â darnau corawl unigryw, a’r gynulleidfa’n ffafrio ymatebion ar gân. Ac wrth gwrs, fe ddewch chi ar draws cyfuniadau o’r uchod i gyd.
Mae’r llyfryn hwn yn ceisio rhoi dealltwriaeth sylfaenol i chi o bopeth sydd ynghlwm wrth arwain addoliad, a’ch galluogi i fyfyrio am eich profiad eich hun fel rhywun sy’n addoli a rhywun sy’n arwain addoliad ill dau. Bydd yn eich helpu i ddeall sut i arwain addoliad yn dda, sut i gyfleu'r ysgrythurau, sut i arwain gweddïau, sut i greu ac arwain ‘Gwasanaeth y Gair’ (y term o fewn yr Eglwys am wasanaeth nad yw’n Gymun), a sut i drefnu’r addoliad ar gyfer gwahanol achlysuron.