Darllenwyr
Pan oedd Iesu ar y ddaear roedd yn cwmpasu ynddo’i hun bob gweinidogaeth. Roedd yn apostol, proffwyd, efengylydd, bugail ac athro, yn gyfryngwr trugaredd, ymbiliwr, rheolwr, cynghorwr a rhoddwr – oll mewn un person. Efe oedd llawnder pob gweinidogaeth. Fodd bynnag, dymuniad Iesu oedd y dylai ei weinidogaeth, gweinidogaeth bywyd a iachâd, ymestyn hyd eithaf y ddaear. Dywed y Llythyr at yr Effesiaid wrthym i Iesu pan esgynnodd rannu’r weinidogaeth hon yn elfennau llai, gan ddyrannu gweinidogaethau rhwng gwahanol bobl hyd nes y byddai’r cyfan o’i weinidogaeth wedi’i buddsoddi yn yr Eglwys. Gosododd felly rai yn efengylwyr, rhai yn athrawon, rhai i ymbilio, rhai i gynghori, ac yn y blaen. Felly nid yw unrhyw aelod o gorff Crist yn amddifad o ddawn, a gyda’n gilydd gallwn weithredu gwaith Iesu.
Mae o fewn yr Eglwys yng Nghymru enghreifftiau di-ben-draw o’r bobl ddawnus hyn: y rhai sy’n gweithio gyda phlant neu bobl ifanc neu deuluoedd, cerddorion a chantorion ac arweinwyr corau, trysoryddion a gweinyddwyr, y rhai sy’n croesawu eraill neu’n arfer doniau lletygarwch ehangach, y rhai sy’n pregethu ac yn arwain gwasanaethau, y rhai sy’n darllen y llithoedd, yn gwneud y casgliad neu’n gweinyddu yn y Cymun. Mae yna hefyd y rhai sy’n ymweld ag eraill, yn arwain astudiaethau Beiblaidd ac yn gwasanaethu ar gynghorau eglwysig. Gallem barhau i ychwanegu ar y rhestr, ond byddem yn camgymryd pe tybiem fod doniau pobl ond ar gyfer gweithgareddau amlwg eglwysig. Mae yna rai sy’n defnyddio eu doniau er gogoniant Duw mewn siopau, ysgolion, ffatrïoedd, modurdai ac ysbytai, ac mae eraill sy’n gwirfoddoli fel llywodraethwyr ysgol neu arweinwyr Sgowtiaid a Geidiaid neu’n rhoi o’u hamser fel cynghorwyr neu i weithio mewn banciau bwyd. Mae pawb ohonynt yn ystyried yr hyn maent yn ei wneud fel gwasanaeth i Dduw – ac os nad ydynt mae gwir angen eu hannog i feddwl felly. Mae Gweinidogaeth yn air sy’n golygu ‘gwasanaethu’. Mae’r syniad bod gweinidogaethu wedi’i gyfyngu i adeilad eglwys wedi hen chwythu’i blwc.
O fewn y gymdeithas ehangach mae rhai tasgau y gall pawb eu gwneud dim ond am fod ganddynt awydd eu gwneud, er enghraifft, gwirfoddoli mewn siop elusen neu ganu mewn côr cymunedol. Yna mae rhai tasgau y gall gweithwyr fod yn eu gwneud o dan gontract cyflogaeth, megis, fel arfer, y rhai sy’n gweithio mewn swyddfeydd a ffatrïoedd, ac mae rhai sy’n gyflogedig ond sydd hefyd wedi’u hachredu gan gorff perthnasol, megis cyfrifwyr a chyfreithwyr. Mae’r Eglwys yn debyg gan fod ynddi hithau rai gweithgareddau y gall pawb eu gwneud, er enghraifft, bod yn groesawydd, a rhai eraill sy’n gofyn pobl sydd yn meddu ar sgiliau gweithio gyda phlant a phobl ifanc1 neu’r gallu i ganu offeryn cerdd neu lais canu da. Mae yna hefyd rai tasgau sydd wedi’u neilltuo ar gyfer offeiriaid ordeiniedig, megis llywyddu yn y Cymun, ond heb eu cyfyngu i hynny. Ond mae categori arall, sef swyddogaeth y Gweinidog Lleyg Trwyddedig. Fel arfer, nid yw’r gweinidogion hyn wedi’u cyflogi gan yr Eglwys, er bod eithriadau i hynny, ond byddant wedi’u trwyddedu gan Esgob ar gyfer maes gweinidogaeth penodol.
Dyma’r maes Gweinidogaeth Leyg Drwyddedig. Mae Darllenwyr yn enghraifft o hyn er fod enghreifftiau eraill er enghraifft gweinidogion plant, pobl ifanc a theuluoedd, efengylwyr, arloeswyr a chaplaniaid. sydd fel arfer yn gweithio ledled Ardal Gweinidogaeth/Cenhadaeth ac yn gwasanaethu felly mewn nifer o eglwysi, er bod gennym rhai sy’n gwneud y gwaith hwnnw o fewn un eglwys. Mae’r llyfryn hwn yn ystyried Gweinidogaeth Darllenwyr fel y mae’n cael ei harfer yn yr Eglwys yng Nghymru, a bydd yn edrych ar beth yw’r weinidogaeth arbennig hon, pam mae arnom ei hangen a sut y gall pobl ddysgu mwy am y weinidogaeth hanfodol hon a dod yn Ddarllenwyr eu hunain.
Yn sylfaenol, mae gweinidogaeth Darllenydd yn weinidogaeth ar gyfer pobl sy’n teimlo bod Duw’n eu galw i arwain pobl Dduw mewn addoliad ac i ledaenu ei Air drwy bregethu ac addysgu
Mae’r llyfryn i Ddarllenwyr yn ystyried Gweinidogaeth Darllenwyr fel y mae’n cael ei harfer yn yr Eglwys yng Nghymru, a bydd yn edrych ar beth yw’r weinidogaeth arbennig hon, pam mae arnom ei hangen a sut y gall pobl ddysgu mwy am y weinidogaeth hanfodol hon a dod yn Ddarllenwyr eu hunain.