Adnoddau Cenhadol Defnyddiol
Adnodd NEWYDD SBON - Eglwys y Bobl
Mae Athrofa Padarn Sant wedi cyhoeddi llyfr Myfyrdodau dwyieithog mewn partneriaeth â Chyngor Ysgolion Sul.
Mae'r llyfr yn cynnwys myfyrdod ar gyfer ar gyfer pob Sul yn y flwyddyn Eglwysig sydd i ddod.
Mae cyfranwyr yn cynnwys myfyrwyr, tiwtoriaid Padarn Sant yn ogystal â nifer o bobl sydd ynghlwm a’r Athrofa megis, hwyluswyr cwrsDiwinyddiaeth ar gyfer Bywyd ac eraill sydd yn gweithio yn wirfoddol i ni. Mae'r llyfr ar gael i'w brynu nawr gan Cyngor Ysgolion Sul neu ar wefan Gwales
Adnoddau
Cyfrannodd Parch Ddr Manon Ceridwen James i adnodd newydd sydd wedi ei greu gan yr Eglwys Fethodistaidd yn arbennig i unigolion, grwpiau a theuluoedd i ymweld â chanolfannau ysbrydol Cymru a meddwl am sut mae ysbrydolrwydd y gorffennol yn medru dod a ni yn agosach at Dduw heddiw. Cyfraniad Manon oedd ar yr ymweliad i Gadeirlan Llanelwy a hanes cyfieithu'r Beibl i’r Gymraeg.
Emynau Cymraeg a dwyieithog gan Cass Meurig
Mae Cass Meurig, sydd yn weinidog lleyg trwyddedig yn Esgobaeth Llanelwy a hefyd yn hyfforddi ar gyfer yr offeiriadaeth ym Mhadarn Sant wedi ysgrifennu nifer o ganeuon gellid eu defnyddio mewn gwasanaethau, nifer ohonyn nhw i alawon gwerin adnabyddus. Gallwch wrando ar yr alawon yma ar sianel YouTube Cass
Adnoddau Cyngor Ysgolion Sul
Mae'r wefan yn eich cyfeirio at wefannau eraill hefyd defnyddiol - mae o werth ymchwilio beth sydd ar gael ar yr holl wefannau gan fod popeth yma o beibl.net i emynau ar PowerPoint.
Cwrs y Beibl gan Cymdeithas y Beibl
8 sesiwn yn helpu rhoi hyder i ddarllen y Beibl, adnodd sydd yn ddilyniant da i gyrsiau fel Alffa a Christianity explored. Mae’r fideos yn Saesneg, ond mae’r llawlyfr ar gael yn Gymraeg i chi rhedeg eich grŵp trwy’r iaith Gymraeg.
Digwyddiadau Bywyd
Casgliad o adnoddau i eglwysi i rhannu gyda phobl sy'n cysylltu â nhw ynghylch Digwyddiadau Bywyd. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.