Adnoddau Cymraeg ar waith
Eglwys y Bont Abersoch
Dychmygwch….. pentref arfordirol o’r new Abersoch ar Benllŷn. Cymuned sydd yn newid yn gyson gyda’r tymhorau; yn orlawn a phobl ar eu gwyliau a phobl leol yn ystod yr haf, a’r gaeaf yn fwy tawel gyda dim ond bobl leol i’w gweld a’r rhai hynny sy’n teithio i’r Gwaith o ardaloedd cyfagos. Yna ystyriwch y cwestiwn hwn; sut mae cynulleidfa o 6 o bobl yn hyd yn oed dechrau ar y Gwaith o estyn allan a rhannu goleuni’r Iesu yn eu cymuned?
I nifer o eglwysi gwledig yng Nghymru, mae cynulleidfa fach yn realiti, ac ar adegau gall fod yn anodd gweld ffyrdd o sut all yr eglwys gael impact ar y gymuned leol.
Cefais sgwrs gyda Helen Franklin am Eglwys y Bont yn Abersoch, am y ffyrdd maen nhw wedi ymgysylltu â’r gymuned er ei niferoedd bychain ac er bod ei aelod ieuengaf yn 51.
Fel eglwys, maen nhw bob amser wedi gwneud ei gorau glas i ddod i adnabod pobl leol a pherchnogion siopau yn y pentref. Pan fydd y pentref yn cynnal ei ffair Nadolig blynyddol, mae’r eglwys yn cymryd rhan drwy ddarparu Stabl pop-up a dillad i deuluoedd gael y cyfle i wisgo lan fel cymeriadau o Ddrama’r Geni a thynnu lluniau, ynghyd â gweithgareddau crefft am ddim i blant. Ar adeg y Pasg maen nhw’n mynd ag wyau siocled o amgylch y siopau ac i dai pobl.
Yn y dyddiau yn arwain i fyny at y cyfnod clo cyntaf, fe aeth yr eglwys o amgylch â chardiau a siocledi i bob perchennog siop gan ddweud y bydden nhw’n gweddïo drostynt yn ystod y cyfnod. Yn dilyn diwedd y cyfnod clo fe wnaethon nhw ymweld â’r siopau gan brynu eitemau ganddyn nhw er mwyn eu cefnogi. Fe gawson nhw sgyrsiau hyfryd, gyda rhai yn dweud ei bod wedi bod yn edrych am eglwys ac yn gofyn mwy am Eglwys y Bont.
Nadolig eleni, bydd popeth yn wahanol. Mae Eglwys y Bont wedi penderfynu cymryd y syniad o galendar Adfent ac wedi cysylltu â phob siop i weld os byddant â diddordeb i gymryd rhan mewn creu ffenest calendar Adfent gydag un newydd yn ymddangos bob dydd. Maen nhw’n bwriadu wedyn i greu helfa drysor o amgylch y pentref i deuluoedd i allu gwneud.
Mae’n galonogol, does dim ots pa faint neu oed ydy’ch cynulleidfa, gallwch ddod o hyd i ffyrdd i ymgysylltu ac i wneud eich marc yn y gymuned drwy wneud y pethau bychain.