Pause for thought: Closing
Cau a Chau
Fe fûm i ar y trên olaf i Gaernarfon – ddwywaith. Y tro cyntaf oedd ar y trydydd o Ionawr mil naw saith deg, pan gaewyd y lein o ganlyniad i adroddiad Beeching. Nos Sadwrn rewllyd oedd hi, gydag eira ar lawr a’r gweithwyr olaf yn yr orsaf yn ein rhybuddio i fod yn ofalus rhag y rhew dan draed.
Fodd bynnag, nid dyna fu’r diwedd wedi’r cyfan. Ym mis Mai’ flwyddyn honno, cafodd Pont Britannia, a gludai’r rheilffordd dros Afon Menai i Ynys Môn, ei dinistrio gan dân. Achoswyd y tân gan lanciau oedd wedi cynnau ffaglau papur i chwilio am ystlumod a chawsant bumpunt o ddirwy yr un am eu camwedd, a gostiodd filiynau o bunnoedd i’r Rheilffyrdd Prydeinig. Deilliodd un o’r problemau difrifol a achoswyd gan y tân o’r ffaith bod Caergybi’n borthladd amlwythi pwysig ar y pryd ac nad oedd digon o ofod yng ngorsaf Bangor i ymdrin â’r traffig hwnnw. Yr ateb fu ailagor y lein i Gaernarfon ar gyfer trenau nwyddau, gyda lorïau’n cludo’r nwyddau hynny i Gaergybi.
Ym mis Chwefror 1972, ailagorwyd Pont Britannia ar ei newydd wedd, felly gallai trenau nwyddau gyrraedd Caergybi eto, a chaewyd y lein i Gaernarfon am yr ail waith, ac roeddwn i ar y trên teithwyr arbennig a drefnwyd ar gyfer yr achlysur hwnnw – ar y trên olaf am yr ail waith felly!
Bellach mae gorsaf newydd yng Nghaernarfon, ond o’r pen arall, gyda threnau Rheilffordd Eryri’n teithio o Borthmadog, ac ymgyrch ar droed i ail-agor y lein o Fangor hefyd. Mae nifer o reilffyrdd eraill wedi’i hailagor yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys rheilffordd Bro Morgannwg, drwy Lanilltud Fawr, a’r lein i Lynebwy, ac mae datblygiadau tebyg yn digwydd yn yr Alban, Lloegr ac Iwerddon. Daeth rhyw droad y rhod.
Erbyn heddiw, yr hyn dw i’n sylwi arno, yn hytrach na gorsafoedd yn cau, yw cau addoldai. Ymron bob wythnos, rwy’n gweld sôn am gapel yn cau, ac mae’n arbennig o drist gweld ei fod yn gapel lle bûm innau’n pregethu gynt. Mae eglwysi hefyd yn cau, ond efallai oherwydd y bu cymaint mwy o gapeli anghydffurfiol ar un adeg, mae cau un o’r rheini’n digwydd yn fwy aml y dyddiau hyn.
Wrth gwrs, nid yw’r darlun mor ddigalon ledled yr ystâd Gristnogol yng Nghymru – mae rhai eglwysi Anglicanaidd, Catholig Rufeinig ac anghydffurfiol yn ffynnu; mae dulliau efengylu arloesol ar droed, gan gynnwys ail-ddarganfod gwaddol yr hen seintiau Celtaidd a’r traddodiad pererindota; mae llawer o eglwysi ‘newydd’, gan amlaf o duedd carismataidd neu bentecostaidd, wedi eu plannu yn ystod y degawdau diwethaf, ac yn denu cynulleidfaoedd helaeth o bob oedran; ac yn y De-ddwyrain yn arbennig, ceir nifer o eglwysi cryfion dan arweinyddiaeth ddu.
Ond yn gyffredinol, ac yn arbennig felly yn y Gymru Gymraeg, mae’r rhagolygon yn eitha’ tywyll. Beth ddylai’n hymateb fod i hyn? Gweddïo am ddiwygiad? A ddylem jest dderbyn bod dyddiau Anghydffurfiaeth draddodiadol Cymru, oes y Capel felly, yn dod i ben? A ddylid hybu sefydlu mwy o achosion dwyieithog? Beth fydd swyddogaeth yr Eglwys yng Nghymru yn hyn oll? A ddylai’r ‘Hen Fam’ ymdrechu’n rhagweithiol i groesawu ei phlant (neu eu disgynyddion o leiaf!) yn ôl? A oes angen i ni ail-ddychmygu ffurf a swyddogaeth yr Eglwys (ledled yr enwadau) eto – fel mae rhai, yn wir, wedi dechrau ei wneud yn barod?
Pan oedd bwyell Beeching yn disgyn ar gymaint o’n rheilffyrdd yn y chwedegau, roedd rhyw deimlad nad oedd fawr o obaith y gellid gwneud dim i atal hynny. Wedi’r cyfan, roedd llai a llai yn defnyddio’r trenau mewn llawer o’r achosion – yn rhannol oherwydd cynnig gwasanaethau anghyfleus yn fwriadol. Dim ond yn ddiweddarach y daeth dyddiau protestio mwy effeithiol, megis yr ymgyrch a achubodd Lein Arfordir y Cambrian yn y saithdegau.
A ydyn ninnau mewn perygl heddiw o ond ochneidio a derbyn diflaniad anochel ein haddoldai wrth i gynulleidfaoedd grebachu? Gadawaf y cwestiynau yn y fan yna – ond mae’n rhaid i ni eu hwynebu os bydd Cristnogaeth Gymreig, a Christnogaeth Gymraeg yn arbennig, o unrhyw sylwedd i barhau.
Dr Siôn Aled Owen